Mae’r Ska Collective, band o Gaerdydd, wedi rhyddhau cân newydd ar gyfer Pencampwriaeth Ewro 2020 sy’n frwd am gefnogi’r tîm cenedlaethol a brwydro yn erbyn hiliaeth.

Addasiad o’r gân ‘Happiness’ gan Ken Dodd yw hi ac mae fersiwn Cymraeg a Saesneg wedi cael ei rhyddhau.

Yr actor a DJ Gareth Potter sy’n canu ar y fersiwn Gymraeg.

“Mae pawb yn hoffi Ken Dodd,” meddai Gareth Potter wrth golwg360.

“Mae hi’r math o gân ti’n gallu canu mewn gêm bêl-droed, mae hi reit chantable.”

Roedd yn rhaid gohirio recordio’r gân y llynedd yn sgil pandemig y coronafeirws.

“Roeddwn ni fod i ysgrifennu’r gân y llynedd, ond oherwydd yr holl chaos nath ddigwydd a’r holl beth yn cael ei ohirio nes i ddim,” eglura Gareth Potter.

“Ond fe wnaeth Steve Bick – y boi sydd wedi trefnu hyn i gyd – dw i’n ‘nabod Steve ers blynyddoedd maith o gwmpas sîn Caerdydd – gysylltu â mi i fod yn rhan ohono fo.

“Felly i fod yn onest es i jyst mewn i’r stiwdio a chael laff ac roedd hwnna yn ei hun yn rili neis.”

Gallwch glywed dwy fersiwn y gân isod.

Gwrthwynebu hiliaeth mewn ffordd “hwylus a phositif”

Prif neges y gân ydi gwrthwynebu hiliaeth, yn ogystal â chefnogi Cymru wrth gwrs.

Mae geiriau megis “am gariad tuag at ein tîm pêl-droed a’r frwydr yn erbyn hiliaeth” yn neidio allan at y grandawr mewn groove Ska bywiog.

“Mae yno aelodau o’r band Opressed arno fo a mae rheina wedi bod yn ymladd hiliaeth yn y sîn skinhead ers degawdau,” meddai Gareth Potter.

“Maen nhw’n fand rili pwysig yn y street punk sîn ac maen nhw’n fois rili lyfli… proper working class punkers sy’n licio bloeddio am wrth-hiliaeth.

“Felly roedd o’n grêt i fod yn rhan ohono… mae o’n tiwn, does dim rocket science amdano fe.

“Mae hi’n gân hapus, rydan ni’n hapus bod Cymru yn y rowndiau terfynol a dydi pobol hiliol ddim yn hapus.

“Ond does dim pwyntio’r bys chwaith, rydach chi’n stiwpid os yda chi’n hiliol mae pawb yn cymryd hwnna’n ganiataol dw i’n meddwl.

“Jobyn rhywbeth fel hwn cael pobol i feddwl ‘actually dydi bod yn hiliol ddim yn cŵl o gwbl a jyst oherwydd mod i mewn massive crowd yn gweiddi pethau sdi’m rhaid iddo fe fod yn gweiddi pethau hiliol’.

“Dyw e ddim yn cŵl a dyw ei ddim yn ddoniol.

“Ond er bod yno le gael pregeth ac ati ynghylch hiliaeth, peth hwylus a phositif ydi hwn.

“Dydy ni ddim yn trio dweud ‘o r’yn ni’n bobol mor dda, mae ein morals ni yn rili dda’ oherwydd ein bod ni’n wrth-hiliol.

“Mae o jyst yn rhywbeth naturiol, ac mae pawb sy’n rhan o’r gân yma jyst yna i gael laff.”

“Rhain ydi’n harwyr ni”

“Mae’r holl beth gwrth-hiliaeth yn rili pwysig dw i’n meddwl.

“Falle bod e’n fwy acceptable mewn rhai llefydd ond mae’n rhaid i ni fel Cymru fynd allan yna a dweud ‘na dyw e ddim’.

“Mae rhai o’n sêr mwya’ ni yn dod o dras wahanol, gyda gwreiddiau dwfn ar draws y byd i gyd… jyst oddi ar dop ymhen i roeddwn i’n siarad gyda Robert Earnshaw diwrnod o’r blaen.

“O’n ni’n siarad gyda Nathan Blake ’chydig fisoedd yn ôl – rhain ydi’n harwyr ni yn y byd pêl-droed, ac mae unrhyw un sydd hyd yn oed ddim yn cefnogi pêl-droed yn deall hynny.”