Fe gafodd y llenor Derec Llwyd Morgan “bwl dychrynllyd o sgrifennu barddoniaeth” y llynedd, ac yntau wedi ei gyfyngu fwy neu lai i libart ei dŷ a’i ardd gymen ar gyrion Rhosmeirch ym Môn.

Dros y pum mlynedd cyn hynny bu’n cyfieithu caneuon ar gais Mari Pritchard, arweinydd corau ieuenctid ym Môn – ac mae nifer o’r rheiny, fel y rhai o’r gân werin o Japan, ‘Sunayama’ a’r garol Almaenig ‘Susanni’, wedi eu cynnwys yn y gyfrol newydd, Bardd Cwsg Arall.