Mae Prif Weinidogion Cymru yn enwog o gyndyn i botsian â’u timau, ac roedd Mark Drakeford wedi cadw’r arfer yma’n fyw ac yn iach.

Cafodd ambell rôl ei haddasu dros y blynyddoedd diwetha’ (addaswyd portffolio Brexit, er enghraifft), ond fel arall dyw pethau ddim wedi newid rhyw lawer.

Felly beth sy’n newydd, Pussycat?! A yw pethau wedi’u trawsnewid yn llwyr?

Wel, chwarae teg i’r hen Drakeford, er gwaetha’i ddelwedd fel bach o bôr, mae wedi cynnig lein-yp ddigon cyffrous i ni jyrnos.