Dros y penwythnos diwethaf, cyrhaeddodd rhaglen frechu Cymru garreg filltir arall.

Bellach mae dros ddwy filiwn o’r boblogaeth wedi cael y brechlyn, ond mae sawl un yn penderfynu gwrthod eu dos.

Mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C bydd y cyflwynwyr Siân Morgan Lloyd a Maxine Hughes yn mynd dan groen y mater yng Nghymru a’r Unol Daleithiau.