Mae grŵp newydd Plaid Cymru yn Gymreigaidd iawn ei wedd, ac mi ddylem ddathlu hynny yn hytrach na digalonni a chywilyddio.

Dyna farn Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd tros Ganol De Cymru a’i hymgeisydd yng Ngorllewin Caerdydd – sedd y llwyddodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, i’w chadw yn hawdd.

Yn sgil etholiad Senedd eleni mae gan y Blaid 13 AoS (un yn fwy nag yn 2016), ac mae pob un o’r rhain yn siarad Cymraeg yn rhugl (doedd dau o’r hen do ddim yn rhugl).