Fe allai pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd lle mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn achosion o’r amrywiolyn Covid, a gafodd ei adnabod yn India, gael eu brechu’n gynt.

Mae ffigurau newydd yn dangos bod achosion wedi mwy na dyblu mewn wythnos yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl ffigurau gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr roedd cynnydd o 520 i 1,313 mewn achosion yr wythnos hon yn y DU.

Dywedodd y gweinidog brechlynnau Nadhim Zahawi y bydd meddygon yn edrych sut mae modd addasu’r rhaglen frechu “er mwyn ei gwneud mor effeithiol â phosib i ddelio gyda’r cynnydd yn yr amrywiolyn,” meddai wrth Sky News.

Ychwanegodd eu bod yn ystyried brechu aelwydydd aml-genhedlaeth lle mae’r aelwyd i gyd yn cael eu brechu, pobl dros 18 oed, a grwpiau o oedolion hyn.

Does dim tystiolaeth ar hyn o bryd nad yw’r brechlyn yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn, meddai.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi dweud bod y sefyllfa yn cael ei fonitro’n ofalus ac na fydd y Llywodraeth “yn oedi i gymryd camau pellach os oes angen.”

Nid yw’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi diystyru cyflwyno cyfyngiadau clo lleol er mwyn atal lledaeniad y firws.

Yn Bolton, sydd ymhlith yr ardaloedd a’r nifer uchaf o achosion, mae unedau profi symudol wedi cael eu hanfon yno ac mae profion Covid wedi cael eu dosbarthu o ddrws i ddrws i 22,000 o breswylwyr.

Mae mesurau profi hefyd wedi cael eu cyflwyno yn Sefton yng Nglannau Mersi a rhannau o Lundain.

Ymhlith y camau eraill sy’n cael eu hystyried mae rhoi’r ail ddos o’r brechlyn yn gynt ar gyfer grwpiau sy’n gymwys.