Wrth i Mark Drakeford ad-drefnu ei gabinet, mae grŵp o sefydliadau ac unigolion o’r sector gelfyddydol yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i fynd ati i greu Gweinidog Diwylliant.
Galwa ‘What Next? Cymru’ ar y Llywodraeth newydd i ystyried yr hyn sy’n cael eu hamlinellu ganddynt yn eu Maniffesto Diwylliannol ar gyfer Adferiad.
Ymhlith y pwyntiau ar eu maniffesto, maen nhw’n galw am Weinidog Diwylliant, ac yn galw ar y Llywodraeth i gydweithio ar fentrau fydd yn mynd i’r afael ag ystyriaethau cynrychiolaeth gyfartal, cydweithio, ac iacháu o fewn y sector.
Bwriad y mudiad, a gafodd ei sefydlu yn 2014, yw cryfhau rôl y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, ac maen nhw’n dod â sefydliadau ac unigolion ynghyd er mwyn trafod eu hamcanion.
“Cydweithio’n agos”
Nawr, mae’r grŵp yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod nhw’n “cydweithio’n agos” â’r sector diwylliannol wrth ddatblygu a chynllunio strategaethau ar draws pob maes.
Yn ôl ‘What Next? Cymru’ byddai’n bosib cyflawni hyn drwy roi cyfrifoldeb dros ddiwylliant a chreadigrwydd i Weinidog Diwylliant, a’i wneud yn aelod llawn o’r cabinet.
Maent yn credu y byddai hyn yn bosib hefyd drwy greu uned polisi ganolog, gref yn y Llywodraeth a fyddai o fudd i iechyd, addysg, celfyddydau a diwylliant, diwydiannau creadigol a’r Gymraeg.
Yn ogystal, mae’r mudiad yn gofyn i’r Llywodraeth sicrhau iechyd a chynaladwyedd y sector, a chryfhau’r dimensiwn diwylliannol ar draws Llywodraeth Cymru.
Maen nhw hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol ymddwyn fel cynllunwyr celfyddydol a diwylliannol, ac yn awyddus i adfywio clymau cymunedol, twristiaeth, a chysylltiadau rhyngwladol drwy’r celfyddydau.
Yn ôl eu maniffesto, maen nhw am sicrhau fod y sector creadigol yn cael ei chynnwys wrth baratoi a gweithredu’r cwricwlwm newydd.