Mae yna ganeuon rhagorol ar albwm gynta’ Hap a Damwain, a tydi hynny ddim syndod pan rydach chi’n ystyried pwy sydd wrthi.

Bu Hap (Simon Beech) a Damwain (Aled Roberts) yn aelodau o fandiau ers eu dyddiau ysgol, a gyda’r ddau bellach yn 50 oed, mae ganddyn nhw ddegawdau o brofiad yn creu cerddoriaeth bop.