Mae Boris Johnson yn wynebu galwadau i fod yn fwy tryloyw ynghylch gwariant ‘lefelu fyny’, ac i ddweud pam fod rhai ardaloedd yn elwa’n fwy nag eraill.

Fe wnaeth Boris Johnson gyhoeddi mesurau ychwanegol ar gyfer cynyddu cyfleoedd ar draws y wlad ddoe (Mai 19), gan gynnwys symud swyddi allan o Lundain a rhoi arian tuag at y stryd fawr.

Ond mae rhai wedi cyhuddo’r Llywodraeth yn San Steffan o fuddsoddi mewn ardaloedd sydd wedi ethol Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Cyhoeddus Tŷ’r Arglwyddi wedi annog y Prif Weinidog i fod yn fwy “tryloyw” ynghylch y ffordd mae’r gronfa’n cael ei dosbarthu.

“Diffyg tryloywder”

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae’r grŵp trawsbleidiol o Arglwyddi yn argymell y dylai ddefnyddio ystadegau amddifadedd er mwyn gwneud eu penderfyniad – rhywbeth sydd heb ei ystyried wrth ddosbarthu’r gronfa o £1 biliwn.

Mae Cadeirydd y pwyllgor wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn ei annog i gyhoeddi’r Papur Gwyn ar gyfer ‘lefelu fyny’ “ar frys”.

“Mae’r Llywodraeth wedi dangos tryloywder diffygiol ynghylch gwneud penderfyniadau ar gyfer y gronfa ‘lefelu fyny’,” meddai’r Arglwyddes Armstrong.

“Mae’r diffyg tryloywder wedi arwain at gyhuddiadau o dueddiad gwleidyddol, wedi arwain rhanddeiliad i gwestiynu pam fod criteria megis pellter teithio i’r gwaith wedi cael sylw mor amlwg, ac mae’n bygwth peryglu ffydd y cyhoedd mewn ‘lefelu fyny’.

“Dylai’r criteria ar gyfer y gwariant ‘lefelu fyny’ weithio ochr yn ochr â mesurau sy’n bodoli’n barod i ystyried anghenion lleol yn well.”

Yn ystod yr Etholiad Cyffredinol yn 2019, fe wnaeth y Blaid Geidwadol ennill tir yng ngogledd a chanolbarth Lloegr, a gogledd Cymru, gydag addewid i leoli prif swyddi’r sector cyhoeddus tu allan i Lundain.

Ymhlith yr ardaloedd sydd wedi derbyn arian o’r gronfa lefelu fyny, mae Grimsby – a wnaeth ethol eu Haelod Seneddol Ceidwadol cyntaf ers y 30au yn ystod yr etholiad diwethaf.

Yn ogystal, mae pwyllgor yr Arglwyddi yn galw am gymryd “agwedd mwy cyfannol” tuag at y gwariant.

“Mae’r Papur Gwyn – a ddylai gael ei gyhoeddi ar frys – yn cael ei groesawu, ond mae’n aneglur beth yn union mae’r llywodraeth eisiau lefelu fyny, faint fydd y strategaeth yn ei gostio, pa mor hir fydd yn ei gymryd, a sut mae’n bwriadu cyrraedd yr amcanion,” meddai’r Arglwyddes Armstrong.

“Cefnogi pob ardal o’r wlad”

“Rydyn ni’n cefnogi pob ardal yn y wlad er mwyn lefelu fyny drwy gynnig biliynau o bunnoedd o arian newydd a fydd yn cael effaith wirioneddol ar fywydau dydd i ddydd pobol ac yn gwella gwasanaethau – o iechyd a gofal i addysg,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Byddwn ni’n cyhoeddi Papur Gwyn ar lefelu fyny yn hwyrach yn y flwyddyn, gan fanylu ar bolisi ymyrryd cryf er mwyn helpu i wella bywoliaethau, lledu cyfleoedd, a gyrru twf economaidd – fel rhan o’n hymdrechion i adeiladu’n ôl yn well o’r pandemig.”