Bydd creu corff sector cyhoeddus newydd ar gyfer goruchwylio rheilffyrdd Prydain yn symleiddio system sydd n “rhy gymhleth”, yn ôl Ysgrfiennydd Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig.

Great British Railways fydd yn berchen ac yn rheoli’r isadeiledd, yn rhoi cytundebau i gwmnïau preifat i gynnal trenau, yn gosod y prisiau a’r amserlenni, ac yn gwerthu tocynnau.

Yn ogystal, bydd Network Rail yn dod yn rhan o’r Great British Railways, mewn ymdrech i gael gwared ar y “system o feio” rhwng gweithrediadau trenau a thraciau pan mae rhywbeth yn mynd o’i le.

Yn ystod yr helyntion gydag amserlen trenau yn 2018, dywedodd Grant Shapps nad oedd yna un person yn rheoli’r system.

“Mae’n rhy gymhleth,” meddai wrth Sky News.

“Ond dw i ddim eisiau mynd yn ôl at ddyddiau British Rail chwaith.

“Roedd nifer y teithwyr yn gostwng, a gorsafoedd trên yn cau.

“Bydd y sector breifat dal yn chwarae rhan yn hyn, yn rhedeg y costau, rhedeg y trenau eu hunain, ond maen nhw’n cael eu talu am redeg y trenau hyn ar amser, cadw nhw’n lân a thaclus, ac un sefydliad fydd yn gwerthu tocynnau ac yn rhedeg yr amserlen.”

“Bydd yn symleiddio pethau a bydd pobol yn ei groesawu’n fawr, dw i’n meddwl.”

“Gwasanaeth maen nhw’n ei haeddu”

Mae’r Cynllun Williams-Shapps ar gyfer y Rheilffyrdd wedi cael ei gyhoeddi fel papur gwyn, ac mae’n seiliedig ar argymhellion yn dilyn adolygiad o’r diwydiant gan Keith Williams, prif weithredwr British Airways.

“Dw i’n gredwr cryf mewn rheilffyrdd, ond am yn rhy hir nid yw teithwyr wedi cael y lefel o wasanaeth y maen nhw’n ei haeddu,” meddai Boris Johnson.

“Drwy greu’r Great British Railways, a buddsoddi yn nyfodol y rhwydwaith, bydd y Llywodraeth hon yn cyflwyno system reilffordd y gall y wlad fod yn falch ohono.”

Nid oes disgwyl i’r Great British Railways gael ei sefydlu nes 2023, ond bydd nifer o ddiwygiadau yn digwydd cyn i’r corff gael ei lansio.

Ymhlith y newidiadau, bydd cyflwyno tocynnau tymor hyblyg, a mwy o docynnau digidol ar ffonau symudol.