Bydd yna fwy o heddlu nag arfer yn patrolio strydoedd Abertawe y penwythnos hwn yn dilyn anhrefn a thrais yn y ddinas nos Iau (Mai 20).

Cafodd lluniau a fideos eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos ceir ar dân ac wedi’u llosgi ar ganol y ffordd, a thorfeydd yn cymeradwyo wrth i gar gael ei rowlio i lawr y tyle.

“Mae’r rhain yn olygfeydd nad ydym yn disgwyl eu gweld yn ein cymunedau ac ni ddylai ein swyddogion orfod delio â sefyllfaoedd fel hyn pan maen nhw’n mynd i’r gwaith ar ddechrau eu shifft,” meddai’r Prif Gwnstabl Jenny Gilmer.

“Rwy’ am sicrhau trigolion Mayhill y byddwn yn cynnal presenoldeb gwell gan yr heddlu drwy gydol y penwythnos.

“Os bydd y rhai sy’n gysylltiedig yn dewis dychwelyd a bygwth diogelwch y cyhoedd ymhellach yng nghymuned Mayhill, byddwn yn delio â nhw yn gadarn.”

“Gwarthus”

“Ein ffocws nawr yw ymchwilio’n llawn i’r digwyddiad gwarthus hwn,” meddai Jenny Gilmer wedyn.

“Byddwn yn defnyddio teledu cylch cyfyng a lluniau cyfryngau cymdeithasol i’n helpu i adnabod ac arestio’r rhai sy’n gyfrifol.

“Roedd lefel y trais tuag at y gwasanaethau brys a’r difrod i adeiladau a cherbydau yn gwbl annerbyniol.

“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth a gwneud apêl i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu fideos i ddod ymlaen a darparu hynny i ni.”

Rhagor o ymateb

Yn y cyfamser, mae rhagor o wleidyddion yn yr ardal a thu hwnt wedi bod yn ymateb i’r digwyddiadau.

Yn ôl Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu’r De, bydd y rhai oedd yn gyfrifol yn wynebu “camau cadarn” a fydd yr heddlu “ddim yn stopio” cyn dwyn achos yn eu herbyn.

Mae’r prif weinidog Mark Drakeford yn dweud bod y digwyddiadau’n “gwbl annerbyniol”, ac na fyddai “trais yn cael ei oddef yn unman yng Nghymru”.

Yn ôl Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, roedd y golygfeydd yn “gwbl warthus”, ac mae’n dweud ei bod hi’n “cefnogi’r heddlu i gymryd camau cadarn” yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol.

Roedd y digwyddiadau’n “gwbl ffiaidd” yn ôl Rob Stewart, arweinydd y Cyngor Sir, a dywed Alun Michael, Comisiynydd Heddlu’r De, ei fod e’n “drist o glywed y cafodd rhai o’r plismyn a gafodd eu galw i’r digwyddiad eu hanafu, ond nid yn ddifrifol, diolch byth”.

Roedd y digwyddiadau’n “warthus”, yn ôl Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, tra bod y Ceidwadwr Cymreig Tom Giffard, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru yn y Senedd, yn dweud bod y sefyllfa’n “destun pryder”.

 

Ymchwilio i anhrefn yn Abertawe dros nos

Mae’r trais a welwyd yn Abertawe neithiwr yn hollol annerbyniol, meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford