Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i anhrefn mawr yn Abertawe neithiwr (Mai 20) ar ôl i wylnos droi’n dreisgar.

Fe wnaeth yr heddlu ofyn i bobol aros yn eu cartrefi yn sgil yr anhrefn ar un o’r strydoedd yn ardal Mayhill y ddinas.

Cafodd lluniau a fideos eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos ceir ar dân ar ganol y ffordd, a thorfeydd yn cymeradwyo wrth i gar rowlio lawr yr allt.

Dywedodd Uwcharolygydd Heddlu De Cymru, Tim Morgan, fod yr hyn oedden nhw’n credu a ddechreuodd fel gwylnos i un o’r trigolion lleol wedi datblygu i fod yn “ddifrod troseddol, treisgar a difaterwch diesgus i ddiogelwch y cyhoedd”.

Yn ôl Tim Morgan, cafodd nifer o swyddogion yr heddlu eu hanfon i’r ardal, ac yn gynnar fore heddiw (Mai 21) daeth yr anhrefn i ben, ac fe wnaeth y dorf adael.

“Mae’r trais a welwyd yn Abertawe neithiwr yn hollol annerbyniol. Dydyn ni ddim yn goddef yr ymddygiad yma unrhyw le yng Nghymru,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford wrth ymateb i’r digwyddiad.

“Diolch i Heddlu De Cymru am ymateb a pharhau i fonitro’r sefyllfa yn agos bore ma.”

“Cwbl annerbyniol”

“Rydyn ni’n apelio ar bawb i beidio dychwelyd i’r ardal, ac rydyn ni’n parhau’n amlwg yn yr ardal am weddill y nos hyd at y bore,” meddai Heddlu De Cymru mewn datganiad.

“Fodd bynnag, os fydd y rheiny oedd yn rhan o hyn yn dewis dychwelyd a bygwth diogelwch cyhoeddus cymuned Mayhill eto bydd swyddogion heddlu niferus, sy’n parhau ar ddyletswydd, yn delio gyda nhw’n gadarn.

“Rydyn ni’n annog preswylwyr i aros yn eu cartrefi heno, a chaniatáu i’r heddlu barhau gyda’u hymchwiliad i’r digwyddiad.

“Bydden ni’n canolbwyntio nawr ar droi at ymchwilio digwyddiadau nos Iau yn llawn.”

“Roedd y digwyddiad neithiwr yn gwbl annerbyniol, a byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i adnabod y rhai oedd yn gyfrifol,” meddai’r Uwcharolygydd Tim Morgan.

“Dw i eisiau sicrhau cymuned Mayhill y gall y bobol oedd ynghlwm â hyn ddisgwyl wynebu gweithredu cryf.

“Mae ymchwiliadau’r heddlu wedi dechrau er mwyn dod o hyd i’r bobol dan sylw.”

Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd a gwybodaeth a allai helpu i adnabod y bobol, neu luniau neu fideos o’r digwyddiad, i gysylltu â nhw.

“Dim esgusodion”

Mae Aelod Seneddol yr ardal, Tom Giffard, wedi galw’r digwyddiad yn un “annifyr”, ac mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi dweud ei bod hi’n “noson anodd i’r heddlu wrth ymdopi â’r fath ymddygiad anystyriol”.

“Dim esgusodion, yr heddlu’n iawn i ymateb yn gadarn,” ychwanegodd Simon Hart.