Mae Palestiniaid wedi hawlio buddugoliaeth yn y gwrthdaro yn Gaza ar ôl i gadoediad ddod i rym yn gynnar ddydd Gwener (Mai 21).

Mae llawer yn ei weld fel buddugoliaeth i’r grŵp milwrol Hamas dros Israel.

Cafodd mwy na 230 o bobl, y rhan fwyaf yn Balestiniaid, eu lladd yn y gwrthdaro, oedd wedi para am 11 diwrnod. Roedd cyrchoedd awyr Israel wedi difrodi rhannau helaeth o Lain Gaza oedd eisoes yn ardal ddifreintiedig.

Fe fydd y cadoediad yn cael ei brofi heddiw pan fydd degau ar filoedd o Balestiniaid yn mynychu gweddi wythnosol ym Mosg Al-Aqsa yn Jerwsalem.

Fe allai protestiadau i ddathlu’r cadoediad arwain at wrthdaro gyda heddlu Israel, gan ail-ddechrau’r trafferthion yno.

Roedd miloedd wedi bod yn dathlu ar strydoedd Gaza ar ôl i’r cadoediad ddod i ben am 2yb.

Roedd ’na ymateb gwahanol yn Israel, lle mae’r prif weinidog Benjamin Netanyahu yn wynebu cyhuddiadau o ddod a’r rhyfel i ben yn rhy fuan.