Mae Ben Lake wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o wario £1,000 y pen yn fwy o arian argyfwng Covid ar bobol yn Llundain, o gymharu â Chymru.

Wrth siarad yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin, fe wnaeth Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion ofyn pam fod cymaint o wahaniaeth yn y gwariant.

Gan ymateb, dywedodd Is-Ysgrifennydd Seneddol Gwladol Cymru fod yr arian wedi mynd i’r “rhai mewn angen ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig”.

Meddai Ben Lake: “Mae ymchwil y Ganolfan Polisi Blaengar wedi dangos fod cefnogaeth argyfwng Covid Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar gyfartaledd, £1,000 yn fwy hael â thrigolion Llundain na rhai yng Nghymru, a bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwario bron i £7 biliwn yn fwy yn Llundain nag os byddai pob rhanbarth a chenedl yn y Deyrnas Unedig wedi cael yr un faint o wariant argyfwng y pen.

“Pa esboniad y mae’r Gweinidog wedi’i dderbyn gan ei gydweithwyr yn y Cabinet ynghylch yr anghysondeb hwnnw?”

Gwario ar y “rhai mewn angen”

Wrth ymateb i’r cyhuddiad, dywedodd David Davies, AS Sir Fynwy ac Is-Ysgrifennydd Seneddol Gwladol Cymru.

“Ffaith y mater yw bod yr arian wedi mynd i’r rhai mewn angen ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Dw i wedi sôn yn barod am y £8.75 biliwn ychwanegol a aeth i Lywodraeth Cymru, y £2.7 biliwn aeth i fusnesau Cymreig, a’r 466,000 o weithwyr o Gymru a gafodd eu cefnogi drwy’r rhaglen ffyrlo.

“A bod yn onest, dw i wir yn croesawu’r cwestiynau hyn, oherwydd maen nhw’n rhoi cyfle i mi fanylu ar y gefnogaeth anferth mae’r Llywodraeth wedi’i roi i Gymru.

“Dros y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwario £280 biliwn ar gefnogi pobol.

“Gyda phob parch i’r Gŵr Bonheddig, dw i ddim yn meddwl y byddai Cymru annibynnol wedi gallu ymdopi â’r lefel hynny o gefnogaeth.”