Llwyddodd y Blaid Lafur i ddenu pleidleisiau’r Cymry yn etholiad y Senedd eleni, tra bod pobol gafodd eu geni yn Lloegr wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr a siaradwyr Cymraeg wedi cefnogi Plaid Cymru.

Dyna mae Jac Larner a Paula Surridge yn ei ddweud mewn darn dadansoddol ar wefan UK in a changing Europe – safle sy’n dadansoddi’r berthynas rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Maen nhw yn dadlau fod y ffaith i’r ddwy brif blaid yng Nghymru gynyddu eu cyfran ar yr un pryd, yn adlewyrchu ailddosbarthu’r 12% o’r bleidlais a enillwyd gan UKIP yn etholiadau 2016.

Wrth drafod Llafur Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig, dywed y dadansoddwyr bod yno dueddiadau clir iawn o ran y gefnogaeth wnaethon nhw ddenu mewn etholaethau penodol.

I Lafur Cymru, roedd cyfran eu pleidlais etholaethol ar ei huchaf mewn etholaethau lle ganwyd cyfran uchel o’r boblogaeth yng Nghymru.

I’r Ceidwadwyr, fe wnaethon nhw yn dda mewn etholaethau lle cafodd nifer uwch o’r boblogaeth eu geni yn Lloegr.

Dyma le’r oedd cyfran Llafur ar ei hisaf.

Roedd apeliadau Llafur i Gymreictod a hunaniaeth Gymreig yn boblogaidd iawn, gyda data Astudiaeth Etholiad Cymru yn awgrymu bod ychwanegu’r gair ‘Cymru’ ar ôl Llafur yn arwain at gynnydd o bedwar pwynt.

Mae’r ymchwil yn casglu fod y Ceidwadwyr, ar y llaw arall, wedi cael eu gweld ers tro byd fel plaid Seisnig yng Nghymru.

Siaradwyr Cymraeg yn cefnogi Plaid Cymru

Mae’r ymchwilwyr yn dadlau fod siaradwyr Cymraeg wedi cefnogi Plaid Cymru yn bennaf yn yr etholiad.

Ond os yw’r Blaid am herio Llafur fel plaid lywodraethol, mae’n dweud bod angen iddi ledaenu ei hapêl i gymoedd de Cymru, ardal â lefelau uchel iawn o boblogaeth yn nodi eu bod yn Gymry yn hytrach na Phrydeinwyr, ond sy’n gadarnle Llafur ers dros ganrif.

Mae perfformiadau cymharol gryf y Blaid yn y Rhondda (er iddi golli’r sedd) a Chaerffili – dwy etholaeth sydd wastad wedi bod â chefnogaeth gref i Blaid Cymru – yn dangos bod gan y Blaid y gallu i herio yn y Cymoedd gydag ymgeiswyr lleol galluog a phoblogaidd, meddai’r ymchwilwyr.

Fodd bynnag, maen nhw yn rhybuddio bod perfformiad gwael y Blaid yn Llanelli yn gwneud enillion etholaethol yn etholiad nesaf y Senedd yn anodd.

Bu cryn gwyno am drefniadau mewnol Plaid Cymru, ond mewn llythyr yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae Dafydd Iwan yn ei hamddiffyn.