Rhaid llongyfarch S4C a Radio Cymru ar eu rhaglenni yn ymateb i ganlyniadau’r etholiad, ac yr oedd dadansoddiadau’r Athro Richard Wyn Jones, Vaughan Roderick a Betsan Powys yn gyson ddiddorol a gwybodus. Yn wir, mae Dicw yn prysur ddatblygu yn seren ddisglair iawn am ei wybodaeth drylwyr o’r maes, a’i ddawn i lefaru’n ddifyr a huawdl ar bwnc y mae cynifer yn llwyddo i’w wneud i swnio fel cors o ddiflastod.