Dal 100 o bysgod mewn diwrnod

Fel rhan o sialens 100 Syr Tom, mae Gareth Bulaman o Dregaron wedi cwblhau’r gamp o ddal cant o bysgod mewn diwrnod. Derbyniodd yr her er mwyn codi arian i’r Ganolfan MS leol y mae’n ei mynychu.

Ewch i Caron360 i wylio fideo o’r hwyl gafodd y criw yn pysgota, ac i gefnogi’r ymgyrch codi arian.

Tirlithriad yn cau rhan o lwybr ger Ysgol Plascrug

Mae tirlithriad wedi difrodi rhan o lwybr cerdded y tu ôl i Feithrinfa yn Aberystwyth. Ar BroAber360 gwelwn luniau o’r difrod ar y llwybr graddol sy’n arwain at y bont dros y rheilffordd ger Ysgol Plascrug. Mae’n debygol y bydd y rhan yma o’r llwybr ar gau am beth amser.

Arwydd ar gau - llwybr troed ger Camau Bach 1. Hawlfraint Huw Evans

Tirlithriad yn cau rhan o’r llwybr

Huw Llywelyn Evans

Diweddariad: Bellach mae Cyngor Ceredigion wedi cau rhan o’r llwybr a ddifrodwyd gan dirlithriad.

Arestio tri wrth ymchwilio i ddiflaniad Frankie

Torrwyd y newyddion ar Ogwen360 bod yr Heddlu sy’n chwilio am Frantisek “Frankie” Morris wedi arestio dyn ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus. Mae dyn a dynes hefyd wedi’u harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae’r ffordd o Bont Felin, Pentir, sy’n mynd tuag at Waen Wen, ar gau wrth i’r heddlu ymchwilio.

EC111DC2-9037-40AF-B781

Arestio tri wrth ymchwilio diflaniad Frankie

Carwyn

Heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth am ddiflaniad y gŵr deunaw oed

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Marwolaeth annisgwyl un o ieuenctid Llanbed, gan Dylan Lewis ar Clonc360
  2. Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig yr Heddlu i Gary Painter, gan Dylan Lewis ar Clonc360
  3. Rhedwyr Aber yn ailgychwyn, gan Deian Creunant ar BroAber360