Mae gwyntoedd cryfion dros nos wedi arwain at drafferthion ledled y wlad, gyda nifer o gartrefi heb drydan a chyfyngiadau teithio.

Bydd rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym nes naw heno (Mai 21), ac mae’n berthnasol i bob man heblaw Wrecsam, Sir y Fflint, a Sir Ddinbych.

Gellir disgwyl gwyntoedd o hyd at 45 i 50 milltir yr awr ym mewndiroedd y wlad, a gall cyflymder y gwynt gyrraedd 60 milltir yr awr ar yr arfordir a’r bryniau, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 22 o rybuddion llifogydd ar draws y wlad hefyd.

Cau Pontydd

Mae Pont Hafren wedi’i chau i’r ddau gyfeiriad yn sgil y tywydd, ac mae Pont Britannia ar gau i garafanau a beiciau modur

Yn ogystal, mae Pont Cleddau, sy’n cysylltu Doc Penfro a thref Neyland yn Sir Benfro, ar gau i gerbydau uchel, a Phont Fawr Llanrwst ar gae oherwydd llifogydd.

Nid yw trenau yn rhedeg rhwng Ystrad Mynach a Rhymni, Pontypridd ac Aberdâr, na Phengam a Bargoed chwaith.

Mae tua 550 o gartrefi heb drydan mewn rhannau o dde a gorllewin Cymru, gan gynnwys rhai yn Nhrefynwy, Abertawe, a Sir Gaerfyrddin.

Gwyntoedd cryfion

Dros nos roedd gwyntoedd o hyd at 73 milltir yr awr ym Mhen-bre ym Mae Caerfyrddin, 69 milltir yr awr yn Aberdaron, a 60 milltir yr awr yn Llyn Llanwddyn ym Mhowys.

Cafodd gwyntoedd o hyd at 71 milltir yr awr eu cofnodi yng Nghapel Curig ddoe hefyd.