Mae cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer gwario yng Nghymru wedi cael eu lambastio fel ymgais i danseilio Llywodraeth Cymru.

Y gŵyn yw bod Llywodraeth Boris Johnson am benderfynu ar sut i wario’r arian sy’n dod yn lle’r hen arian o Ewrop, a’i basio yn syth i gynghorau sir a chyrff eraill yng Nghymru, gan gau Llywodraeth Cymru allan o’r trefniadau.

Dan yr hen drefn roedd Llywodraeth Cymru yn cael £680 miliwn o Ewrop i’w wario ar ardaloedd tlota’r wlad.

Mae Boris Johnson hefyd wedi cael ei gyhuddo o “gipio pwerau” oddi ar Gymru gyda Chronfa Lefelu Fyny ei Lywodraeth.

Pan ofynnodd golwg360 i Swyddfa Cymru am eglurhad, dywedodd llefarydd nad oedd hi “mor syml ag ateb ydi neu nac ydi” oherwydd bod “nifer o wahanol gynlluniau a chronfeydd ar y gweill”.

Ac mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi amddiffyn y cynlluniau.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn codi gêr yng Nghymru,” meddai wrth wneud cyflwyniad ar-lein.

“Rydym yn cyflymu ein cefnogaeth i gymunedau lleol i’w helpu i adfer yn dilyn y pandemig, rydym yn dod â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn nes at Gymru a byddwn yn arwain adferiad Cymru i chwyldro diwydiannol gwyrdd o swyddi a thwf.”

“Syfrdanol”

Cwestiynodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, statws y Ceidwadwyr fel “plaid yr Undeb” gan ddweud bod ei hagwedd tuag at ddatganoli yn “syfrdanol”.

“Felly dyma ni, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu gwthio i feysydd datganoledig tra’n torri ei haddewid ar yr un pryd na fydd Cymru yn colli allan ar gyllid ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Syfrdanol, di-hid a thrahaus. Plaid yr Undeb? Am nonsens!”

Cyhuddo Boris Johnson o “achosi gwrthdaro diangen”

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb trwy gyhuddo’r Prif Weinidog Boris Johnson o gipio pwerau ac achosi “gwrthdaro diangen”.

“Mae’r cynlluniau hyn yn methu â gwarantu cyfran deg [o arian] i Gymru ac maen nhw’n seiliedig ar bwerau a gafodd eu cipio’n ôl gan San Steffan,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae dull Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae wedi’i gynllunio mewn partneriaeth â chymunedau Cymru.

“Cafodd cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu gwneud yn Whitehall ac fe’u cynlluniwyd i achosi gwrthdaro diangen.

“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi terfyn ar yr agwedd ‘rydych chi’n cael yr hyn a roddir i chi’ i Gymru.

“Byddwn yn brwydro dros gyfran deg i Gymru gyda phenderfyniadau am Gymru, yn cael ei gwneud yng Nghymru.”

Cyhuddo San Steffan o geisio “gorchfygu Cymru”

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi dweud bod “cynllun bondigrybwyll San Steffan i Gymru yn ceisio tanseilio Cymru ar bob tro”.

“Bydd ardaloedd fel Gwynedd – a gafodd flaenoriaeth o dan gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd am fod yn un o’r ardaloedd lleiaf datblygedig yn Ewrop – bellach yn cael eu tynnu i lawr y rhestr.

“Yn y cyfamser, bydd arian yn mynd i etholaethau Torïaidd cyfoethocach.

“Nid yw San Steffan yn bwriadu gweithio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, ond tanseilio ein llywodraeth ddatganoledig yn fwriadol ac yn sinigaidd.

“Gallai eu gwrthodiad i gynnwys Llywodraeth Cymru danseilio strategaeth economaidd Cymru, yn hytrach na’i wella.

“Mae angen agenda datblygu economaidd genedlaethol briodol ar Gymru ar frys.

“Yr hyn sydd gennym yn lle hynny gyda’r Gronfa Lefelu Fyny, yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhannu, a cheisio gorchfygu Cymru, drwy dorri ein heconomi’n 22 uned sy’n cystadlu â’i gilydd.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ailasesu ei meini prawf ar frys fel bod cyllid yn cael ei ddyrannu yn ôl yr angen.”

“Gwella bywyd bob dydd”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Drwy’r Gronfa Lefelu Fyny, byddwn yn buddsoddi mewn seilwaith sy’n gwella bywyd bob dydd ledled y Deyrnas Unedig – gan gynnwys yng Nghymru.

“Bydd hyn yn cynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn diwylliant a threftadaeth.

“Yn ddiweddarach eleni, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi Papur Gwyn Lefelu i Fyny sy’n nodi sut y bydd ymyriadau polisi newydd beiddgar yn gwella bywoliaeth ledled y wlad wrth i ni adfer yn dilyn y pandemig.

“Bydd ein Cynllun Swyddi yn creu cyfle i bobl o bob oed ble bynnag maen nhw’n byw drwy roi hwb i sgiliau a rhoi’r cyfle gorau posibl iddyn nhw gael swydd.”