Mae Brexit wedi golygu fod marchnad Ewropeaidd un cwmni jin o ogledd orllewin Sir Gâr wedi “diflannu”.

Yn ôl David Thomas, un o sylfaenwyr Jin Talog, mae’r cwmni wedi colli eu holl farchnad yn Ewrop yn sgil y costau ychwanegol y mae’n rhaid i’w cwsmeriaid eu talu.

Dywedodd David Thomas wrth golwg360 fod eu costau wedi cynyddu hefyd gan eu bod nhw wedi gorfod penodi asiant mewnforio er mwyn cael gafael ar gynhwysion.

“Mae’r dyfodol yn edrych yn ansicr iawn,” meddai, gan ddweud nad ydyn nhw eisiau cynyddu prisiau eu jin yn sgil y sefyllfa economaidd ym Mhrydain ar ôl y pandemig.

“Colli’r holl farchnad”

“Rydyn ni wedi colli, mewn gwirionedd, ein holl farchnad yn Ewrop,” meddai David Thomas, a wnaeth sefydlu’r ddistyllfa jin ym mhentref Talog ar y cyd ag Anthony Rees.

“Roedd y farchnad yn Ewrop wedi tyfu yn ddiweddar, yn gyntaf oherwydd pobol Cymru oedd yn byw yn Ewrop… maen nhw’n hoff iawn o bethau Cymreig, felly roedden ni’n arfer anfon llawer o boteli iddyn nhw.

“Wedyn eu ffrindiau nhw, pobol eraill sydd wedi clywed am y jin o ganlyniad.

“Roedd y farchnad wedi tyfu llawer, ond y broblem yw nawr: pan mae pobol yn derbyn y jins ym Mrwsel, neu ble bynnag yn Ewrop, maen nhw’n gorfod talu trethi.

“Smo ni’n gystadleuol o gwbl, dyna’r broblem rili.”

“Dim siawns”

Fe wnaeth David Thomas grybwyll nifer o enghreifftiau lle’r oedd rhaid i’w gwsmeriaid yn Ewrop dalu costau ychwanegol er mwyn derbyn y cynnyrch.

“Roedd cwsmer yng Ngwlad Belg, prynodd botel o jin, a £43 oedd y gost retail, ond wedi derbyn y jin ym Mrwsel roedd e’n gorfod talu 31€ ychwanegol.

“Mae’n hurt, pwy sy’n mynd i brynu ein jin ni nawr pan fod bron 100% o’r pris yn cael ei ychwanegu mewn trethi ac ati?” gofynnodd David Thomas.

“Yn yr Iseldiroedd, yr un peth. Yr wythnos hon, cawsom ni archeb gan gwsmer ffyddlon iawn. Roedd e moyn prynu 10 botel o’n jin, roedd y pris yn £440 ond bydd rhaid iddo fe ychwanegu 92€ fel VAT ac ati, ac wedyn costau eraill o’r cwmni courier.”

Dywedodd David Thomas na fydd y cwsmer hwn yn archebu eto chwaith.

“Wrth gwrs, mae e wedi canslo nawr,” meddai David Thomas.

“Un enghraifft arall, rhywun yn Iwerddon – Iwerddon yn agos iawn i ni’n fan hyn yn y gorllewin, roedden ni’n arfer anfon poteli i Iwerddon trwy’r amser.

“Roedd y [jin] yn anrheg ac fe wnaeth y botel groesi’r môr bum gwaith achos doedd y cwsmer ddim moyn derbyn y botel oherwydd y costau ychwanegol,” meddai, gan ategu bod y cwsmer wedi talu’r costau yn y pendraw.

“I ddweud y gwir, does dim siawns gyda ni i werthu yn Ewrop o gwbl achos dyw ein pris ni ddim yn gystadleuol nawr.

“Pam fysa nhw’n prynu jin o’r Deyrnas Unedig pan mae llawer o jins eraill ar gael yn rhatach?”

Methu cynyddu’r prisiau

“Ein bwriad ni oedd creu rhywbeth o safon, rhywbeth gyda hunaniaeth Gymreig, ac sy’n amlwg,” meddai David Thomas.

“Mae’r busnes wedi tyfu, ond nawr ar ôl Brexit mae’r farchnad yn Ewrop ar gau.

“Dros y blynyddoedd ar ôl y refferendwm, dywedodd Llywodraeth Prydain ‘dylet ti baratoi am Brexit’ ac ati. Yn ystod y misoedd diwethaf ro’n i’n darllen popeth sydd ar gael ar y we ar sut i baratoi.

“Ond doedd dim syniad gyda neb ar y pryd, achos doedden ni ddim yn gwybod pa fath o Brexit i ddisgwyl.

“Daeth y deal mas Noswyl Nadolig, dim manylion o gwbl sut i ymdopi â’r amodau newydd. Ni ar goll rili.

“Dychmygwch, mae ein costau ni wedi tyfu, y farchnad wedi lleihau… mae’n rhyw fath o perfect storm.

“Smo ni moyn rhoi costau ychwanegol i’n cwsmeriaid oherwydd y sefyllfa economaidd ym Mhrydain. Mae pobol yn teimlo’n anhyderus pan maen nhw’n wynebu’r dyfodol.

“Smo ni’n gallu rhoi costau eraill arnyn nhw.”

“Popeth mor gymhleth”

“Ni’n mewnforio popeth rili i wneud y jin, y gwirod organig yn dod o Ffrainc, poteli yn dod o Ffrainc,” meddai David Thomas wrth drafod eu cynhwysion.

“Mae costau popeth wedi tyfu, a hefyd ro’n i’n gorfod penodi import agent.

“Mae popeth sy’n cael ei fewnforio ar ein rhan ni yn cael cost ychwanegol on top, mae pris popeth wedi tyfu,” eglurodd wrth grybwyll y ffaith fod rhaid talu Treth Ar Werth i’r asiant mewnforio gyda ffi o 2.5% ychwanegol iddyn nhw.

“Maen nhw’n talu’r VAT ar ran ni i Lywodraeth Prydain, wedyn mae’n rhaid i ni hawlio’r VAT yn ôl gan Lywodraeth Prydain.

“Cyn hynny roedd popeth yn seamless, syml, syml iawn, ond nawr mae popeth mor gymhleth. Os chi’n gallu dychmygu, cyn Brexit roedd e mor hawdd anfon jin o Gymru i Düsseldorf â Doncaster.

“Roedd e hollol yr un peth. Ond nawr mae’n minefield.

“Cyn Brexit fe wnaethon ni newid ein partner logistics, achos roedden ni moyn ffeindio rhywun sy’n gallu anfon poteli yn Ewrop yn hawdd, er mwyn datblygu’r farchnad yn Ewrop.

“Ond nawr mae’r farchnad wedi diflannu.

“Rydyn ni wedi gwneud popeth i fod yn llwyddiannus, ond nawr rydyn ni wedi’n torri allan gan y penderfyniad yma gan Lywodraeth Prydain.

“Does dim modd i ni herio’r pethau sy’n digwydd.”