Mae athrawon “o dan straen ddifrifol” yn sgil trefniadau arholi eleni, yn ôl Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC), Rebecca Williams.

Daw ei sylwadau wedi i’r Gweinidog Addysg newydd, Jeremy Miles, frolio’r “ymdrech eithriadol” i sicrhau trefn arholi newydd yng nghyfnod y pendemig.

Ysgolion a cholegau sy’n penderfynu ar raddau TGAU a Lefel A y disgyblion eleni, ar ôl i arholiadau gael eu canslo.

Mae ysgolion yn cynnal asesiadau mewnol er mwyn penderfynu ar raddau, a dywed Rebecca Williams eu bod nhw’n “gwneud eu gorau i sicrhau tegwch i ddisgyblion”.

Bydd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg newydd, yn awyddus i osgoi’r hyn ddigwyddodd y llynedd pan gafodd miloedd o ganlyniadau eu hisraddio gan swyddogion arholi – gan achosi hafoc.

O ganlyniad, cafodd y graddau gwreiddiol yr oedd athrawon wedi rhoi i’w disgyblion eu derbyn ac ymddiheurodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Jeremy Miles yn galw am “gysondeb” a “chydbwysedd”

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg newydd, wedi dweud y dylai myfyrwyr a rhieni fod â hyder yn y system raddio eleni.

“Rwyf wedi gweld ymdrech eithriadol yn cael ei gwneud i gynllunio system gydag arweinwyr ysgolion sy’n gredadwy ac yn gyfiawn,” meddai.

“Felly, mae angen y cydbwysedd o ymddiried mewn athrawon i wneud y dyfarniadau y maen nhw’n gallu eu gwneud am gyrhaeddiad eu disgyblion ar y naill law, ond hefyd cael mecanwaith i sicrhau cysondeb ar draws y system – rwy’n credu bod cydbwysedd wedi’i daro.”

“Straen”

Ac mae Rebecca Williams o undeb UCAC yn dweud fod athrawon yn gwneud eu gorau glas dan amodau anodd.

“Er gwaetha’r straen aruthrol sydd wedi dod yn sgil y system asesu eleni, mae ysgolion a cholegau’n gwneud popeth posib i sicrhau bod disgyblion yn derbyn canlyniadau sy’n adlewyrchiad teg o’u cyrhaeddiad.

“Mae disgyblion wedi cael cyfnod llawer fwy straenus nag a ragwelwyd yn sgil yr wythnosau o asesiadau ers y Pasg.

“Mae staff dan straen ddifrifol, gyda chanllawiau a gofynion newydd yn dal i bentyrru.

“Mae’n rhwydd i fwrdd arholi a rheoleiddiwr anghofio bod y gofynion hyn yn ychwanegol at gyfrifoldebau arferol rhedeg ysgol, a’r holl gymhlethdodau a dyletswyddau ychwanegol sydd wedi glanio yn sgil Covid-19.

“Bydd pawb yn gwneud eu gorau i sicrhau tegwch i ddisgyblion sy’n derbyn canlyniadau eleni.

“Ond mae’n bryd cynllunio ar gyfer flwyddyn nesaf, a dysgu o wersi llynedd ac eleni.

“Gall athrawon ddim wynebu sefyllfa fel hon eto.”