Mae myfyrwraig wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o ymosod ar heddweision, yn dilyn parti yn neuadd breswyl John Morris Jones, Prifysgol Bangor ar 11 Ebrill, pan roedd cyfyngiadau coronafeirws mewn grym.

Yn ôl Newyddion S4C, yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener, plediodd Modlen Alun, sydd o Ysbyty Ifan ac yn astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, yn euog hefyd i rwystro neu atal cwnstabl rhag cyflawni ei ddyletswyddau.

Hefyd ar y noson fe arestiwyd John Harri Williams, 20 oed o Landdoged.

Plediodd yntau yn euog ddydd Gwener i gyhuddiad o ymosod ar heddwas, o fod yn feddw ac afreolus mewn man cyhoeddus, ac o rwystro neu atal cwnstabl rhag cyflawni ei ddyletswyddau.

Gwrthod cydymffurfio

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd fod swyddogion wedi eu galw i ddigwyddiad mewn neuadd myfyrwyr yn y brifysgol ym Mangor er mwyn “cynorthwyo staff diogelwch gyda’r drefn gyhoeddus.”

Clywodd y llys fod o leiaf 15 o bobl wedi casglu mewn fflat yn y neuadd ar safle’r Brifysgol ar y noson, gyda’r heddlu wedi rhoi gorchymyn i’r rhai nad oedd yn byw yn y fflat i adael.

Fe wrthododd y diffynyddion gydymffurfio gyda gorchmynion yr heddlu a bu’n rhaid i swyddogion ddefnyddio chwistrellydd pupur.

Roedd yn rhaid i’r heddweision estyn am wn taser ond nid oedd yn rhaid ei ddefnyddio yn y pen draw.

Dywedodd Gareth Parry, cyfreithiwr y ddau ddiffynnydd, eu bod yn derbyn yn llwyr y cyhuddiadau yn eu herbyn, gan ddweud bod ganddynt gywilydd mawr o’u hymddygiad a’u bod yn “yn ymddiheuro i’r heddlu, i’r brifysgol ac i’r teuluoedd.”

Cyflwynodd Mr Parry eirdaon i’r llys ar ran y diffynyddion, un gan gyn-bennaeth i Modlen Alun ac un arall gan gyflogwr John Harri Williams, sydd yn beiriannydd.

Dedfryd

Cafodd Modlen Alun ddedfryd o 12 mis o orchymyn cymunedol a 120 awr o waith di-dâl yn y gymuned, a dirwy o £380 yn cynnwys iawndal a chostau.

Cafodd John Harri Williams ddedfryd o 12 mis o orchymyn cymunedol a 120 awr o waith di-dâl yn y gymuned, a dirwy o £280, yn cynnwys iawndal a chostau.

Y coleg ar y bryn

Prifysgol Bangor dan “straen fawr iawn i herio unrhyw dorri rheolau [covid]” yn Neuadd Syr John Morris-Jones

Erfyn ar fyfyrwyr y neuadd Gymraeg i beidio gadael ffrindiau i fewn yno am sesh