Mae Prifysgol Bangor dan “straen fawr iawn i herio unrhyw dorri rheolau” yn Neuadd Syr John Morris-Jones (JMJ) ac yn ngweddill eu neuaddau preswyl.

Dyna mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) wedi ei ddweud mewn neges at breswylwyr y neuadd, wedi iddo orfod ymddangos o flaen rai o uwch swyddogion y brifysgol.

Bu yn rhaid galw’r heddlu i’r neuadd nos Sadwrn diwethaf, ac mae golwg360 ar ddeall bod rheolau covid wedi eu torri, gyda myfyrwyr wedi gwadd ffrindiau draw am barti.

Yn ei neges at y myfyrwyr ar facebook, mae Llywydd UMCB, Iwan Evans, yn rhybuddio: “Mae’r heddlu wedi gweud hefyd, os bod unrhyw achos arall yn digwydd lle mae rhaid iddyn nhw amharu, fydd y cosb llawer mwy difrifol”.

Ac mae yn erfyn am gadw at y rheolau: “Os ydych yn ymwybodol o unrhyw [un] o mets chi yn bwriadu dod i JMJ am sesh, allwn ni plis gweud wrtho chi i gweud wrthyn nhw i beidio.”

Difrodi’r neuadd

Yn ei neges, mae Iwan Evans hefyd yn crybwyll bod difrod wedi ei achosi yn y neuadd: “Mae’r Brifysgol hefyd yn ymwybodol o llanast a phethau wedi torri mewn fflatiau amrywiol.

“Bydd myfyrwyr oedd yn bresennol yn y fflatiau ar y pryd, pan gafodd unrhyw llanast ei ffeindio, yn derbyn dirwy i dalu i fixo unrhywbeth.”

Yn dilyn yr helbul, bu yn rhaid i Iwan Evans a Llywydd Neuadd Syr John Morris-Jones fynd o flaen Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol ac Ysgrifennydd Cyngor y Brifysgol, er mwyn ceisio datrys y problemau.

Swyddogion diogelwch ar y drws

Mae’r Brifysgol yn erfyn ar bobol i beidio â gwahodd ffrindiau i mewn i’r neuadd am sesh, ac yn nodi na fydd swyddogion diogelwch yn caniatáu i bobol sydd ddim yn byw yn y neuadd Gymraeg gael mynediad i’r adeilad, meddai Iwan Evans yn ei neges i fyfyrwyr.

Bydd swyddog diogelwch ar y drws yn Neuadd Syr John Morris-Jones am y mis nesaf er mwyn “cadw pawb yn ddiogel”.

Ma’r neuadd Gymraeg ar Ffordd Ffriddoedd y ddinas yn cynnwys 134 o stafelloedd hunanarlwyo, gyda myfyrwyr yn talu rhwng £121 a £130 yr wythnos i aros yno.

Ac mae Prifysgol Bangor wedi gorfod delio gydag achosion o covid yn ystod y pandemig.

Er nad oedd modd i’r brifysgol gadarnhau faint o achosion o Covid-19 oedd ymhlith myfyrwyr cyn y Nadolig, cadarnhaodd llefarydd fod achosion ymysg myfyrwyr oedd yn byw ar y campws yn ystod yr hydref.

Ymateb UMCB

Mewn datganiad, mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor wedi dweud wrth golwg360 mai “nifer bychan” o fyfyrwyr fu’n cambyhafio.

“Mae’n anffodus iawn bod nifer bychan o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn gysylltiedig efo achosion o dorri canllawiau Cofid-19 y penwythnos diwethaf,” meddai Iwan Evans, Llywydd UMCB, mewn datganiad.

“Mae UMCB ac Undeb Bangor yn gweithio efo’r Brifysgol i sicrhau bod yr achosion yma a’r hyn ddigwyddodd wedi’i delio â nhw yn y modd mwyaf addas.

“Rhaid pwysleisio mai lleiafrif helaeth o fyfyrwyr oedd ynghlwm efo’r achosion yma, ac felly nid yw’n adlewyrchu ar y darlun ehangach o sut mae ein myfyrwyr yn ymddwyn. Yn wir rhaid canmol ein myfyrwyr ar eu hagwedd tuag at y pandemig, a’r ffordd maent wedi mynd ati i gynorthwyo’r gymuned ehangach drwy waith elusennol amrywiol a gweithio i sicrhau fod trigolion sydd yn hunan-ynysu yn cael mynediand at fwyd a meddyginiaeth a.y.y.b.

“Er ei fod yn siomedig bod yna achosion wedi bod, mae trigolion tu allan i’r neuadd sydd ddim yn fyfyrwyr hefyd wedi bod yn cymryd mantais o adeiladau’r Brifysgol, a rhaid gwneud yn glir nad ydy UMCB nac Undeb Bangor yn cefnogi unrhyw achos o dorri’r cyfyngiadau, ac rydym mor awyddus â phawb arall i gadw’n myfyrwyr, staff â’r gymuned ehangach yn ddiogel.”

Ymateb Prifysgol Bangor

“Gall y Brifysgol gadarnhau bod criw o fyfyrwyr wedi ymgynnull yn un o’r Neuaddau Preswyl ar 10 Ebrill, yn groes i ganllawiau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

“Mae iechyd, diogelwch a lles holl aelodau’r Brifysgol yn hollbwysig, ac rydym yn gweithio’n ddiwyd dros ben i gadw lefelau Covid-19 mor isel â phosib yn ein cymuned. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw achosion o Covid-19 ymysg staff a myfyrwyr y Brifysgol.

“Er bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ymddwyn yn gwbl gyfrifol, yn anffodus ni wnaeth rhai ohonynt y tro hwn.

“Mae’r Brifysgol yn condemnio’n gryf unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n torri rheolau a chanllawiau Covid ac rydym wedi atgoffa preswylwyr y Neuadd ymhellach bod yn rhaid iddynt ymatal rhag ymddygiad sy’n anniogel ac sy’n rhoi staff, myfyrwyr, y cyhoedd a staff y Gwasanaethau Brys mewn perygl.”