Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Prydain dros Ddeddf y Farchnad Fewnol, sy’n “cwtogi’n ddifrifol” ar bwerau’r Senedd yng Nghaerdydd.

Mae Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Cymru, yn ceisio dod â her lawn i’r Uchel Lys dros y Ddeddf, gan ddadlau y gallai atal y Senedd rhag deddfu ar safonau bwyd neu faterion amgylcheddol.

Wrth gyhoeddi’r camau cyfreithiol ym mis Ionawr, dywedodd Jeremy Miles fod y Ddeddf yn “ymosodiad” ar bwerau’r Senedd, a hefyd yn cynnwys “pwerau Harri VIII eang” y gallai gweinidogion y Deyrnas Unedig eu defnyddio i “leihau’r setliad datganoli”.

Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli Jeremy Miles yn dadlau bod yn rhaid “dehongli’r Ddeddf fel nad yw’n diddymu meysydd o gymhwysedd datganoledig”.

Maen nhw hefyd am i’r Uchel Lys ddatgan nad yw’r ‘pwerau Harri VIII’ fel y cyfeirir atynt yn caniatáu i San Steffan wneud “diwygiadau sylweddol” i gymhwysedd datganoledig Llywodraeth Cymru.

Mewn gwrandawiad yn Llundain ddydd Gwener (Ebrill 16), gofynnodd Jeremy Miles i’r Uchel Lys ganiatáu i’r achos fynd ymlaen i wrandawiad llawn yn ddiweddarach eleni.

Mae Llywodraeth Prydain yn dadlau bod honiadau Jeremy Miles yn “ddamcaniaethol”, ac nad oes “dim yn Neddf y Farchnad Fewnol yn newid cymhwysedd datganoledig y Senedd”.

“Pwerau eang i addasu datganoli”

Dywedodd Helen Mountfield QC, a oedd yn cynrychioli Jeremy Miles, wrth yr Uchel Lys ei bod yn ymddangos bod y Ddeddf yn rhoi “pwerau eang… i addasu Deddf y Farchnad Fewnol ei hun, deddfwriaeth datganoli a deddfwriaeth sylfaenol arall”.

“O leiaf ar un darlleniad, mae’r darpariaethau hyn mor ddifrifol yn cwtogi cymhwysedd y Senedd, Cynulliad Cymru gynt, i ddeddfu mewn meysydd nad ydynt wedi’u cadw i Senedd San Steffan … er mwyn dileu’r meysydd hynny o gymhwysedd y Senedd,” meddai wrth y llys.

Ychwanegodd Helen Mountfield ei bod yn ymddangos bod y Ddeddf yn “galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i ddiwygio cwmpas y setliad datganoli mewn ffyrdd eang ac amhenodol yn y dyfodol”.

Dadleuodd fod Deddf y Farchnad Fewnol yn golygu y bydd “unrhyw ymgais i osod safonau gwahanol neu fwy trwyadl mewn un wlad yn cael ei dehongli fel rhwystr i fasnachu rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig ac o ganlyniad yn ddi-rym.

“I bob pwrpas, ni all Llywodraeth Cymru wneud safonau amgylcheddol newydd o gwbl,” meddai.

Dywedodd hefyd fod yr “ansicrwydd parhaus” ynglŷn â pha mor eang yw’r Ddeddf yn “gwneud cwmpas y setliad datganoli … [yn] anghydlynol, ansefydlog ac anymarferol”.

Fodd bynnag, dywedodd Syr James Eadie QC – sy’n cynrychioli Llywodraeth Prydain – mewn cyflwyniadau ysgrifenedig: “Roedd gan y Senedd hawl i wneud darpariaeth benodol mewn perthynas â marchnad fewnol y Deyrnas Unedig … ac efallai na fydd dewisiadau deddfwriaethol a drafftio’r Senedd yn cael eu cwestiynu, fel y mae’r hawlydd yn ceisio’i honni.”

Mae’r gwrandawiad gerbron yr Arglwydd Ustus Lewis a Mrs Ustus Steyn i fod i ddod i ben brynhawn Gwener ac nid yw’n glir eto a fydd y llys yn rhoi dyfarniad heddiw neu ar ddyddiad hwyrach.

San Steffan

Gweinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn codi llais yn erbyn llywodraeth Prydain

Cyhuddo Llywodraeth San Steffan o “ddarparu cyllid i ddiwallu blaenoriaethau Whitehall” yn lle rhai pobol Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Datganoli: Pwyllgor Senedd yn codi pryderon am ymyrraeth Llywodraeth San Steffan

Adroddiad yn galw am “gyd-ddealltwriaeth” er mwyn osgoi “tensiwn diangen”