Mae Cyfarwyddwr Artistig o Geredigion yn dweud bod angen “hysbysu’r Blaid Lafur bod yna siaradwyr Cymraeg yng Nghymru”, a bod angen i ganfaswyr y blaid wybod mwy am y wlad cyn codi’r ffôn yn gofyn am fôt.
Daw sylwadau Jeremy Turner wedi iddo dderbyn glwad i’w gartref gan ddyn ifanc o Swydd Hertford ar ran y Blaid Lafur.
Gan mai yn Saesneg y dechreuodd y sgwrs, gofynnodd Jeremy Turner i’r canfaswr a oedd yn siarad Cymraeg, ac a oedd yn ymwybodol bod canran uchel o etholaeth Ceredigion yn siarad Cymraeg.
Dywedodd y dyn ifanc “nad oes gan y Blaid Lafur lawer o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg”, meddai Jeremy Turner.
Ac mae’r Blaid Lafur wedi cadarnhau wrth golwg360 bod pobol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn ffonio cartrefi yng Nghymru ar ran y blaid, ac wedi mynnu bod unrhyw awgrym nad oes gan y blaid ymgyrchwyr dwyieithog yn “anwir”.
“Pam ddim anfon rhywun sy’n gyfarwydd â Chymru?”
“Fe gannodd y ffôn, fe godais y ffôn, ac roedd llais ifanc ar y pen arall, digon cwrtais, yn gofyn i siarad gyda fy ngwraig,” meddai Jeremy Turner wrth golwg360.
“Ond doedd fy ngwraig i ddim yma, felly fe wnaeth e ofyn a fyddwn i’n fodlon siarad gydag e.
“Wedyn fe wnaeth e esbonio ei fod yn canfasio ar ran y Blaid Lafur, felly fe wnes i ofyn a oedd e’n siarad Cymraeg – achos mod i ddim yn cymryd yn ganiataol bod unrhyw un ag acen Saesneg ddim yn siarad Cymraeg.
“A dywedodd e bod e ddim, felly gofynnais a oedd yn gwybod lle’r oedd e’n ffonio? A medde fo: ‘Wales, Aberystwyth’.
“Felly gofynnais: ‘ydych chi’n gwybod bod nifer o bobol yng Ngheredigion yn siarad Cymraeg, ydych chi’n gyfarwydd ag Aberystwyth?’
“’Yndw, roeddwn i yn y brifysgol yno’, medde fo.”
Fe wnaeth Jeremy Turner esbonio wrtho fod Aberystwyth a’r etholaeth yn un ddwyieithog, gyda chanran uchel yn siarad Cymraeg.
Daeth i’r amlwg wedyn bod y dyn yn dod o Harpenden, sy’n Swydd Hertford yn Lloegr.
“Dim byd yn erbyn pobol Harpenden na phobol sy’n byw yn Lloegr,” meddai Jeremy Turner, “ond pam nad ydyn nhw wedi anfon rhywun sy’n gyfarwydd â Chymru i ganfasio?
“Fe wnes i bwyntio allan bod dros 50% o bobol yng Ngheredigion yn siarad Cymraeg.
“’Fedrwch chi ddim dod o hyd i siaradwr Cymraeg?’ gofynnais, a dywedodd nad oes gan y Blaid Lafur lawer o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg.
“Fe wnaeth e ymddiheuro os oedd o wedi fy offendio i, a dywedes i fod popeth yn iawn. Ond y byddai’n well iddo hysbysu’r Blaid Lafur bod yna siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac mai’r ffordd orau o gyfathrebu gyda nhw fyddai drwy eu hiaith eu hunain.
“Roedd yn amlwg fod y Blaid Lafur yng Nghymru ynghlwm yn dynn â’r blaid yn Lloegr, a’u bod nhw wedi dod â phobol o Loegr i ffonio pobol yng Ngheredigion.
“Roedd hi’n sgwrs boleit iawn ar y ddwy ochr,” pwysleisia Jeremy Turner.
Yn “falch iawn o’r ddwy iaith”
Mae’r Blaid Lafur wedi cadarnhau bod canfaswyr o bob cwr o Brydain yn ffonio pobol yng Nghymru.
“Bydd aelodau o’r Blaid Lafur ar draws y Deyrnas Unedig yn ffonio pleidleiswyr ymhob man ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru, i drio cael pobol i bleidleisio dros y Blaid Lafur ar Fai 6,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur wrth golwg360.
“Felly, mae unrhyw awgrym nad oes gennym ni ymgyrchwyr sy’n ddwyieithog yn hollol anwir o ystyried fod Mark Drakeford yn Brif Weinidog, a bod gennym ni weinidogion sy’n falch o’r iaith Gymraeg ac sy’n ei siarad bob dydd fel iaith gyntaf.
“Mae’n gwbl bosib bod aelod o’r Blaid Lafur sydd nawr yn byw yn Swydd Hertford, ond a oedd yn y brifysgol yn Aberystwyth, wedi ffonio, a thrio cefnogi ein hymgyrch etholiadol.
“Rydym ni’n falch o’r ddwy iaith yng Nghymru, a byddwn yn parhau i gyfathrebu â phleidleiswyr yn y ddwy iaith.”