Mae pobol eisoes yn gwybod bod Mark Drakeford yn hoffi caws a chwythu’r clarinét… a rŵan mae wedi datgelu ei fod yn hoffi bodi-bordio.
Bu Prif Weinidog Cymru yn trafod ei gariad tuag at reidio’r tonau gyda’r newyddiadurwr teithio Jack Palfrey.
Buodd hefyd yn trafod sut i gael gwyliau da yng Nghymru, sut mae twristiaeth Gymreig yn creu swyddi, a hyd yn oed ei hoff fryn.
Bydd hi’n sioc i rai bod Mark Drakeford yn hoffi bodi-bordio – ond dyma’r diweddaraf ar y rhestr o’i ddiddordebau – sydd hefyd yn cynnwys chwarae sboncen.
Wrth drafod bodi-bordio ar draethau Sir Benfro, dywed Mark Drakeford: “Dw i wastad wedi mwynhau bodi-bordio.
“Fy nod yw dal ati ac osgoi cael fy nhaflu o dan y tonnau, ond mae rhywbeth hollol wych amdano.
“Dw i yno, a bob tro’n meddwl ‘un don olaf’ ac yna mae’r un olaf bob amser yn troi allan i fod yr un rwyt ti wir yn ei dal ac sy’n dy daflu i’r lan.
“Ac unwaith mae hynny wedi digwydd, ti’n troi o gwmpas ac yn mynd yn ôl i ddod o hyd i’r don nesaf.”
Pedwerydd Parc Cenedlaethol i Gymru
Buodd Mark Drakeford hefyd yn trafod cynlluniau Llafur Cymru ar gyfer parc cenedlaethol newydd.
“Rwy’n falch iawn ein bod, yn ein maniffesto, wedi ymrwymo i’r parc cenedlaethol newydd cyntaf yng Nghymru ers 1957,” meddai.
“Mae gennym dri Pharc Cenedlaethol gwych ac rydym yn mynd i greu pedwerydd.
“Mae’n mynd i fod ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yng ngogledd ddwyrain Cymru.
“Mae’n rhaid i mi gyfaddef i chi fy mod wedi mynd i ran o Fryniau Clwyd yr wythnos diwethaf nad ydw i erioed wedi bod yno.
“Roedd yn syfrdanol, roedd yn hynod brydferth.”