Mae astudiaeth newydd wedi casglu bod pobol oedd â man gwyrdd ar garreg eu drws, neu fynediad at ardd breifat, yn teimlo bod eu hiechyd a’u lles yn well yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ac wedi hynny.

Daeth ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i’r casgliad bod pobol â gardd neu barc gerllaw yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw’n teimlo’n fodlon, yn dawel eu meddwl, a bod ganddyn nhw fwy o fwy o egni, o gymharu â rhai heb fynediad at ardd, neu’n byw ymhellach oddi wrth fan gwyrdd.

Yn ôl ffigurau swyddogol, nid oes gan tua un o bob wyth cartref yng ngwledydd Prydain fynediad at ardd breifat neu ardd i’w rhannu.

Mae’r astudiaeth yn amlygu manteision enfawr mannau gwrdd ar gyfer iechyd y meddwl a’r corff, a’u manteision wrth greu cymunedau mwy gwydn.

Casgliadau

Cafodd 5,556 o bobol eu holi am eu cartref a’u cymdogaeth, a’u hiechyd meddwl a’u lles, ddwywaith – y tro cyntaf ym mis Mawrth/Ebrill 2020, ac yna ym Mehefin/Gorffennaf 2020 wedi i’r don gyntaf o achosion ostwng.

Roedd yr arolwg yn rhan o astudiaeth Profiadau Cyhoeddus Covid-19, a gwelwyd bod lles goddrychol gryn dipyn yn uwch pan gafodd cyfyngiadau eu llacio wedi’r don gyntaf, o’i gymharu â’r adeg pan gafodd y cyfyngiadau eu cyflwyno.

Roedd gan bobol oedd yn byw o fewn pump i ddeng munud neu fwy o daith cerdded i ffwrdd o fan gwyrdd cyhoeddus lefelau is o les goddrychol na’r rhai oedd yn byw llai na phum munud o daith gerdded i ffwrdd.

Yn ogystal, roedd gan y rhai oedd â mynediad at ardd breifat lefelau uwch o les goddrychol na’r rhai oedd heb ardd breifat.

Dangosa’r canlyniadau bod mynediad at fannau gwyrdd yn arbennig o bwysig i aelwydydd heb ardd breifat yn ystod ton gyntaf y pandemig.

Er bod cysylltiad ystadegol arwyddocaol rhwng cael mynediad at ardd breifat a lles dynion, ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o grwpiau penodol yn elwa’n fwy nag eraill.

“Amhrisiadwy”

“Beth mae hyn yn ei ddangos yw bod gerddi a pharciau wedi bod yn hanfodol i iechyd a lles pobl yn ystod y pandemig, yn enwedig pan oedd y cyfyngiadau llymaf ar waith,” meddai prif awdur yr astudiaeth, yr Athro Wouter Poortinga, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd.

“Mae parciau cyhoeddus a mannau gwyrdd eraill wedi bod yn amhrisiadwy i lawer yn ystod y cyfnodau anodd hyn.

“Rhaid i ni wneud yn siŵr bod mannau o’r fath ar gael i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Gellir gwneud hyn trwy blannu mwy o goed a chreu parciau newydd, yn ogystal â thrwy amddiffyn mannau gwyrdd presennol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.”

“Angen gwerthfawrogi mannau gwrydd”

“Yn ystod y pandemig, mae mannau gwyrdd wedi cynnig lle inni gysylltu â natur, bod yn egnïol yn gorfforol, a chymdeithasu pan mae’r rheoliadau’n caniatáu,” meddai cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Rhiannon Phillips, o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

“Mae hyn wedi golygu bod treulio amser mewn gerddi preifat a mannau gwyrdd cyhoeddus wedi chwarae rôl hanfodol o ran lleihau effaith y pandemig ar iechyd a lles pobl.

“Mae gofalu am ein mannau gwyrdd yn hanfodol bwysig er mwyn ein galluogi i ofalu amdanom ein hunain.

“Mae angen i ni werthfawrogi ein mannau gwyrdd a’u defnyddio’n barchus. Rhaid gwneud yn siŵr nad ydym yn niweidio’r amgylcheddau hyn a’n bod yn mynd â’n sbwriel gartref, fel bod pawb yn gallu eu mwynhau.”