Mae achosion Covid-19 yng Nghymru yn parhau i ostwng, gyda thua un o bob 920 o bobol wedi cael eu heintio â Covid-19 yn yr wythnos hyd at Ebrill 10 – i lawr o un o bob 800 yn yr wythnos flaenorol, a’r isaf ers yr wythnos hyd at Fedi 10.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r amcangyfrif tua un o bob 710 o bobol, i lawr o un o bob 300 yn yr wythnos flaenorol a’r isaf ers i amcangyfrifon ddechrau ar gyfer Gogledd Iwerddon ym mis Hydref.
Mae’r amcangyfrif ar gyfer yr Alban tua un o bob 500, i lawr o un o bob 410 a’r isaf ers i amcangyfrifon ddechrau ar gyfer yr Alban ym mis Hydref.
Dim mwy wedi marw
Cafwyd cadarnhad o 48 achos arall o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â’r cyfanswm i 210,729.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd unrhyw farwolaethau bellach, gan olygu bod 5,535 wedi marw ers cychwyn y pandemig.
Mae’r asiantaeth hefyd wedi cyhoeddi bod cyfanswm o 1,651,028 o’r dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi eu rhoi yng Nghymru.
Ychwanegodd fod 574,590 o ail ddosau hefyd wedi’u rhoi.