Mae arolwg newydd yn awgrymu bod 60% o gefnogwyr Llafur ar draws gwledydd Prydain yn cefnogi ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban “o ran egwyddor” yn y blynyddoedd nesaf, ac mae 56% yn meddwl y dylai’r blaid Lafur rannu’r farn honno hefyd.

Canfu astudiaeth YouGov, a fu’n holi 1,073 o aelodau Llafur rhwng Mawrth 17 a Mawrth 24 mai dim ond 31% yn yr Alban sy’n teimlo’r un fath – gyda 61% yn erbyn y syniad ac 8% heb benderfynu.

Fodd bynnag, dim ond 43 o bobol gafodd eu holi yn yr Alban.

Mae 30% o ymatebwyr ledled gwledydd Prydain yn gwrthwynebu refferendwm arall, tra bod 10% yn dweud nad ydynt yn gwybod.

Mae’r rhan fwyaf o’r gefnogaeth i refferendwm arall o fewn Llafur mewn grwpiau oedran hŷn, gyda 63% o bobol 50-64 oed a 64% o’r rhai hŷn na 65 oed yn gefnogol, o’i gymharu â 52% yn y grwpiau oedran 18-24 a 25-49.

Ymddengys hefyd bod cefnogwyr Llafur yn mynd yn groes i bolisi’r blaid, sydd yn erbyn refferendwm arall.

Dywed arweinydd y blaid yn yr Alban, Anas Sarwar, y dylai’r tymor seneddol nesaf yn Holyrood ganolbwyntio ar yr adfer wedi Covid-19.

“Keir Starmer wedi colli cysylltiad â’r Alban”

Dywedodd Dirprwy Arweinydd yr SNP, Keith Brown: “Mae Keir Starmer wedi colli cysylltiad â’r Alban ac aelodau ei blaid ei hun, sydd yn cefnogi hawl yr Alban i ddewis ein dyfodol ein hunain mewn refferendwm annibyniaeth ar ôl y pandemig.

“Fe wnaeth y Blaid Lafur ddifetha ei henw da yn yr Alban drwy gefnogi Brexit caled Boris Johnson, cefnogi toriadau llymder, gosod arfau niwclear Trident, a gweithio law yn llaw â’r Torïaid.

“Mae [Keir Starmer] yn peryglu dirywio ei blaid ymhellach os yw’n parhau i ochri â Boris Johnson a gwadu democratiaeth.”