Mae pobol mewn swyddi sydd heb sicrwydd o oriau gwaith pendant ddwywaith fwy tebygol o farw o covid, yn ôl dadansoddiad newydd.

Yn ogystal, dangosa’r ymchwil fod gweithwyr mewn swyddi heb sicrwydd o oriau gwaith ddeg gwaith fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn derbyn tâl salwch.

Mae pobol sydd mewn swyddi o’r fath yn wynebu “ergyd driphlyg”, meddai undeb y TUC Cymru, gan eu bod yn llai tebygol o dderbyn tâl salwch, gyda llai o hawliau, ac yn cael cyflog is.

Canfyddiadau

Yn ôl y dadansoddiad, mae’r gyfradd farwolaethau ymysg dynion 20-64 oed sydd mewn swyddi heb oriau pendant yn 51 i bob 100,000 yng Nghymru a Lloegr.

Ar gyfer dynion sydd mewn swyddi gydag oriau gwaith mwy sefydlog, mae’r gyfradd yn 24 ymhob 100,000.

Dangosa’r ymchwil fod y gyfradd o ran marwolaethau ymysg merched mewn swyddi heb oriau pendant yn 25 ymhob 100,000, o gymharu gydag 13 ymhob 100,000 ar gyfer merched mewn swyddi sefydlog.

Mae undeb y TUC wedi galw am fwy o ymchwil manwl i’r cysylltiad rhwng gwaith gydag oriau amhendant a’r perygl o ddal y feirws, a marw.

Mae un ymhob naw gweithiwr mewn swydd heb oriau gwaith pendant, ac mae merched, gweithwyr anabl, a lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fod mewn swyddi o’r fath.

Ynghyd â hynny, mae arolwg newydd gan Britain Thinks yn dangos bod pobol mewn swyddi heb oriau pendant bron i ddeg gwaith yn llai tebygol o dderbyn tâl salwch.

Nid yw bron i ddwy filiwn o bobol yn y Deyrnas Unedig yn cael cyflog digon uchel i dderbyn tâl salwch.

Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu Tâl Salwch Statudol i’r un raddfa â Chyflog Byw, a sicrhau ei fod ar gael i bawb.

“Pawb yn haeddu tâl teg”

“Waeth beth yw eich hil, rhyw, abledd, neu gefndir, mae pawb yn haeddu tâl teg, a chael eu trin â pharch,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifenydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Ond yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld cyfradd uwch o achosion o Covid-19 a marwolaethau ymysg gweithwyr mewn swyddi heb oriau gwaith pendant.

“Mae gormod o weithwyr yn sownd ar drefniadau dim oriau, neu fathau eraill o waith ansefydlog, ac yn cael eu taro gan ergyd driphlyg drwy gyflogau isel, ychydig iawn o hawliau yn y gweithle, a thâl salwch isel – neu ddim o gwbl.

“Mae llawer ohonynt yn weithwyr allweddol – fel gofalwyr, gyrwyr faniau, a gweithwyr sy’n profi am Covid-19. Rhaid i hyn fod yn drobwynt.

“Er bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio llenwi’r bylchau mewn cefnogaeth – drwy raglenni fel y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu a chynyddu tâl salwch i ofalwyr – dim ond gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig mae’r grym i gynyddu tâl salwch statudol i’r un gyfradd â’r Cyflog Byw, a sicrhau ei fod ar gael i bawb, gan gynnwys pobol sydd ar drefniadau dim oriau, a mathau eraill o waith sydd heb oriau pendant.

“Mae’n anhygoel fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i fethu ag adnabod yr achos foesol ac ymarferol dros drwsio’r system taliadau salwch flwyddyn ers dechrau’r argyfwng.”