Mae Cynog Dafis wedi herio Aelodau newydd Senedd Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg hyd eithaf eu gallu wrth wneud eu gwaith.
Mewn llythyr agored yng nghylchgrawn Golwg ar ran Dyfodol yr Iaith, mae e’n galw ar y gwleidyddion i roi dyhead y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg ar waith yn ymarferol drwy osod esiampl o ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus.
Meddai Cynog Dafis yn ei lythyr:
‘Yn Senedd Cymru, sefydliad dwyieithog yng ngwir ystyr y gair, mae pob cyfleustra i ddefnyddio’r Gymraeg – mewn pwyllgor, yn y sesiwn lawn, ar bapur ac ar sgrîn. Ac mae cyfran anghymesur o’r Aelodau etholedig yn medru’r iaith i raddau amrywiol o rwyddineb a huodledd.
‘Yr argraff sy gen-i fodd bynnag – heb unrhyw ystadegau i brofi’r pwynt – yw mai ymylol, ac yn sicr nid normal, yw’r defnydd ohoni. Yn gyffredin fe glywn-ni siaradwyr Cymraeg rhugl yn optio am y Saesneg, y lingua franca ryngwladol honno y mae ei lledaeniad yn erydu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg o ddydd i ddydd ac o flwyddyn i flwyddyn.’
Angen bod yn “hy’ ac yn hyderus”
Mae Cynog Dafis, sy’n gyn-Aelod Seneddol a chyn-Aelod o’r Cynulliad, yn awgrymu bod siaradwyr rhugl eu Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn ddieithriad, “yn normal a naturiol, yn hy’ ac yn hyderus,” wrth annerch ac ateb y Cymraeg a’r di-Gymraeg er mwyn hyrwyddo dwyieithrwydd.
Yn ogystal, mae’n argymell y dylai siaradwyr Cymraeg llai rhugl ei defnyddio’n achlysurol ond yn fwyfwy aml, gan gofio mai defnydd sy’n gwella meistrolaeth.
I’r di-Gymraeg, mae Cynog Dafis yn eu hannog i’w defnyddio’n symbolaidd o leiaf, ac o bosib mynd ati i’w dysgu, gan ddilyn yr hyn wnaeth Glyn Davies a David TC Davies yn ystod tymor cyntaf y Cynulliad.
Pwysleisia Cynog Dafis nad ar sail gwroldeb na dyletswydd y dylid mynd ati i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, ond yn hytrach mewn ysbryd o “hyder a balchder – llawenydd, hyd yn oed – yn nhrysor rhyfeddol ein heniaith”, a thrwy hynny, “ei hyrwyddo a’i gloywi i ateb gofynion oes newydd.”