Ers ysgol dw i ddim ’di bod yn ffan mawr o bobol yn gweud wrth bobol er’ill pa iaith i siarad. Dw i’n dal i gofio’r teimlad o anghyfiawnder wrth glywed y waedd ‘CYMRAEG, CEIRO!’ ar gael fy nal yn cael sgwrs Saesneg – gweddol brin ’fyd ar y cyfan – yng nghoridorau’r ysgol.