Cymysgedd o’r gwych a’r gwachul sy’n cael sylw’r cyn-gynhyrchydd teledu yr wythnos hon…

Dw i wedi bod yn crwydro dramâu ‘hanesyddol’ yn ddiweddar. Dw i’n darofyn ers tro sôn am y gyfres Leonardo (Prime). Hanes da Vinci a rhai o’i gampweithiau, wedi’i gosod o fewn ffrâm ymholiad i gyhuddiad ei fod wedi llofruddio’r ferch oedd yn brif ysbrydoliaeth iddo fo. Mae cymaint o’i le efo’r gyfres hon, mae’n anodd iawn credu mai gwaith Frank Spotnitz (yn rhannol) ydy hwn. Fo oedd yn gyfrifol am y campwaith The Man in the High Castle (Prime) ac er na chyrhaeddodd tair cyfres gysylltiedig Netflix am y Medici yr un lefel â hwnnw, roedden nhw ganmil gwell na Leonardo, sy’n llwyddo i wneud cyfres am yr athrylith a oedd yn feistr ar gynifer o wahanol feysydd yn ddiflas ac undonog. Beth wnaeth i neb oedd a wnelo â’r trychineb hwn feddwl bod Leonardo mor anniddorol bod angen creu ffrâm ar sail cyhuddiad (ffug) o lofruddio merch (mwy na thebyg ffug) i wneud i bobl wylio? Oce, mae cyfresi ‘hanesyddol’ yn aml yn palu celwydd wrthym ni er mwyn creu stori well, megis Versailles (Prime) yn defnyddio sïon go-iawn o’r cyfnod am frenhines Ffrainc a thywysog o Affrica, neu Medici yn cywasgu amser a chreu cymhelliant ac ati, ond rhan o ‘gyfan’ mwy ydy’r rhain. Dydyn nhw ddim wedi teimlo’r angen i ddefnyddio’r pethau hyn yn brif yriant cyfres gyfan! Mae’r lleoliadau, ar y llaw arall, fel yn achos sawl cynhyrchiad teledu o’r Eidal (Medici, Zero, Zero, Zero, The Name of the Rose), yn fendigedig.

Mae lleolidau Mare of Easttown (Sky Atlantic) yn realistig, llawn mwd ac yn llawn cymeriadau gritty a downbeat. Ro’n i’n teimlo’n ddigon tebyg i’r cymeriadau am y ddwy bennod gyntaf ond mae’r stori wedi dechrau gafael nawr ac mae’n braf iawn cael ditectif â phroblemau, sy’n gwbl ymwybodol o’i phroblemau. Ac mae pawb arall yn ymwybodol ohonynt hefyd gan ei bod hi’n perthyn i hanner trigolion y dref lle mae hi’n gweithio, ac wedi bod i’r ysgol efo nifer helaeth o’r gweddill. Mae Kate Winslet yn arbennig o dda yn portreadu dynes ganol-oed sydd jest wedi cael llond blydi bol ar bob dim a phawb a dim tamaid o amynedd ar ôl ganddi. O gwbl. Efo neb.

Dw i wedi gwylio dwy bennod gyntaf Domina (Sky) oedd yn bownd o apelio ata i achos dw i’n sgut am gyfresi hanesyddol am Rufain. Fel cyfresi ‘hanesyddol’ eraill (Medici, Versailles, Rome) mae’n dibynnu ar gywasgu neu ymestyn amser a defnyddio dychymyg i lenwi bylchau yn yr hyn sy’n hysbys, neu er mwyn creu drama. Ymerawdres gyntaf Rhufain, Livia, gwraig Augustus, yw testun y gyfres. Efallai bod rhai ohonoch yn cofio perfformiad bythgofiadawy Siân Phillips fel Livia yn I Claudius. Dw i ddim yn meddwl y bydd y dehongliad yma yn cyrraedd uchelfannau fersiwn Siân ‘Don’t eat the figs’ Phillips, ond mae’n ddigon difyr. Mae’n osgoi cymhariaeth uniongyrchol ar hyn o bryd drwy ganolbwyntio ar y Livia ifanc. Cafodd ei magu mewn cyfoeth, o ran arian a llinach sy’n mynd yn ôl i bump teulu aristocrataidd cyntaf Rhufain. Ond dewisodd ei thad yr ochr anghywir yn y rhyfel cartref a ddilynodd lladd Cesar ac roedd ei gŵr cyntaf yn dipyn o wew yn y dehongliad hwn. Dw i’n eithaf mwynhau ar hyn o bryd ac am ddal i wylio, i weld sut y bydd yn datblygu.

Methu stumogi drama’r Bîb

Dw i ddim am ddal i wylio a gweld sut y bydd The Pursuit of Love (BBC 1) yn datblygu. A dweud y gwir, fyddwn i ddim wedi gwylio’r ugain munud y gallais ei stumogi oni bai mod i’n teimlo dyletswydd oherwydd y golofn hon. Mae’n bopeth dw i ddim yn ei ddeall am Saeson – yr obsesiwn â ‘dosbarth’, a chymysgedd lysnafeddog y rhai ‘islaw’ o wasaidd-dra a dyhead (nad oes modd byth ei wireddu) i gael eu derbyn i’w mysg. Mae’r byd hwn yn fwy estron imi nac unrhyw beth ar Walter Presents. Mi fyddai ‘light touch’, ‘wit’, a ‘soufflé’ wedi’u defnyddio wrth gomisiynu a gweithio ar y sgript a chyfweld a briffio cyfarwyddwyr. Ond i mi, mae’n gwbl amlwg nad dychan na hiwmor mo hyn, ond broliant – braint yn ei slymio hi.

Mae’r gyfres yn dangos gorchudd chiffon o gampau aristocrataidd arwynebol, ariannog a disylwedd sy’n cuddio realiti gafael haearnaidd aristocratiaid go-iawn Lloegr ar rym ac arian. Ydy’r gynulleidfa i fod i chwerthin efo nhw, neu ar eu pennau? Dw i’n ofni mai smalio chwerthin fydd y gynulleidfa yr anelodd y BBC (yn ei ymdrechion pathetig i blesio’r Torïaid) y gyfres hon ati, tra’n dyheu’n ddistaw bach i gael byw yn y byd hwnnw. Dyma peak Englishness, y clwb na all Boris byth ymuno ag o mewn gwirionedd, tra bo Rees-Mogg yn aelod diamau ohono. Am Heseltine y sgwennodd Alan Clarke “An arriviste, certainly, who can’t shoot straight and in (Michael) Jopling’s damning phrase ‘bought all his own furniture’…. All the nouves in the party think he is the real thing”. Rhad ar Johnson na fedr fforddio prynu ei ddodrefn ei hun.

Dyma fydd colofn olaf Siân Jones am y tro, a diolchwn iddi am ei chyfraniadau difyr a dadlennol