Bydd microsglodion yn cael eu rhoi mewn biniau yn Sir Ddinbych fel rhan o ymdrech i ddal a dirwyo pobol sy’n gwrthod ailgylchu gwastraff.
Fel rhan o’r ymdrech i fod yn ailgylchu 70% o wastraff y sir erbyn 2024-25, bydd microsglodion yn cael eu gosod yn holl finiau bwyd a biniau sbwriel y sir.
Yn ôl adroddiad i gynghorwyr, bydd y system gasglu sbwriel newydd yn helpu i newid ymddygiad ac mae’r cynghorwyr yn gefnogol o’r cynllun.
Llynedd, daeth i’r amlwg nad yw tua 20% o gartrefi Sir Ddinbych yn ailgylchu eu gwastraff bwyd, a daw’r cyhoeddiad wrth iddyn nhw newid tuag at gasglu biniau sbwriel unwaith y mis.
Er hynny, bydd yr ailgylchu, gwastraff bwyd, a chlytiau babis yn cael eu casglu yn wythnosol, yn ôl y Local Democracy Reporting Service.
Mae’r cynlluniau yn rhan o gyfres o newidiadau gan Gyngor Sir Ddinbych, gan gynnwys creu Uned Newid Ymddygiad, a defnyddio bagiau bin a fydd yn ei gwneud hi’n amhosib i wylanod fynd trwyddyn nhw.
“Cam i’r cyfeiriad cywir”
Dywedodd un cynghorydd wrth golwg360 nad yw’n credu fod y cynlluniau’n mynd yn rhy bell.
“Yn fy marn, i mae’n rhywbeth sy’n mynd i wella casglu sbwriel, ac ailgylchu’n well,” meddai Arwel Roberts, Cynghorydd Plaid Cymru dros ward Rhuddlan ar Gyngor Sir Ddinbych.
“Dydyn nhw ddim yn gwybod pwy yda chi, dim ond fod pob bin yn berchen i bob cartref.
“Dw i ddim yn meddwl y bydd yna beryg mawr i drigolion unrhyw sir pan ddaw hyn i mewn.”
Ychwanegodd Arwel Roberts fod peryg y gallai rhai pobol gael eu cosbi, ond “fod rhaid i bawb beidio taflu eu sbwriel i le bynnag maen nhw eisiau”.
“Rhoi mwy o drefn ar gasglu sbwriel maen nhw, achos mae yna rai pobol yn cymysgu pob math o sbwriel gyda’i gilydd.
“Mae hyn yn mynd i arbed pres i bob sir, yn enwedig Sir Ddinbych.
“Dw i’n meddwl fod o’n gam i’r cyfeiriad iawn,” ychwanegodd, gan ddweud ei fod yn cefnogi’r cynllun ar y cyfan.
“Dw i reit hapus”
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams wrth golwg360 ei fod ar ddeall mai biniau bwyd fydd canolbwynt y cynllun, gan mai’r rhai hynny mae pobol “yn fwy cyndyn” o’u defnyddio.
Ychwanegodd hefyd fod y biniau gwastraff yn tueddu i fynd ar goll yn amlach.
“Dw i’n gwybod eu bod nhw wedi treialu sawl mlynedd yn ôl gyda’r biniau compost o’r ardd, oherwydd eu bod nhw’n mynd ar goll,” meddai’r cynghorydd Annibynnol dros ward Dinbych Uchaf a Henllan.
“Fedra i ddeall bod rhai pobol yn meddwl fod cymhelliad cudd, ond dw i’n amau hynny.
“Mae e’n fwy i wneud â chadw tabs ar bobol, oherwydd un o’r problemau mwyaf… gyda’r biniau glas rydyn ni’n eu defnyddio ar y funud, os ydych chi’n rhoi un eitem anghywir mewn, yna mae’r holl fin yn llygredig.
“Gallai’r bin fod yn llawn o ddeunydd iawn sy’n gallu cael ei ailgylchu ac rydych chi’n rhoi un eitem yna sy’n llygru’r holl fin, hylif neu wastraff bwyd, ac wedyn dyna ni… dydych chi methu ei ddefnyddio.”
Esboniodd fod hynny’n cael effaith wedyn ar yr holl lwyth yn y fan ailgylchu, os yw’r bin hwnnw’n cael ei wagio i’r fan.
Arbed hanner miliwn o bunnau
Eglurodd Geraint Lloyd-Williams fod trefn casglu sbwriel Sir Ddinbych yn wahanol i’r drefn sy’n cael ei hargymell gan Lywodraeth Cymru, gan eu bod nhw’n defnyddio un bin ailgylchu yn hytrach na gwahanu’r sbwriel yn dibynnu ar y deunydd.
Pan ddaeth y newid mewn biniau ailgylchu mewn siroedd eraill, roedd Sir Ddinbych “ymysg y gorau ar ailgylchu” meddai’r Cynghorydd, oherwydd roedd yn “haws” i bawb roi popeth mewn un bil ailgylchu.
“Fe wnes i gwestiynu’r newid mewn gwasanaethau, mi fydd hi’n broses dipyn arafach,” meddai.
“Ond yn ôl yr ystadegau, mae’n mynd i arbed £500,000, a bydd rhaid i ni weld.
“Efo’r microsglodion, os ydyn nhw ddim ond ar gyfer hyn, dw i’n reit hapus.”
Bydd y cynlluniau yn costio £17.5 miliwn i’r Cyngor, ond bydden nhw’n lleihau’r gost o drin gwastraff o tua £500,000 y flwyddyn.
Mae disgwyl i waith ddechrau ar ganolfan sortio gwastraff newydd dros yr haf, a bydd y newidiadau’n dechrau cael eu cyflwyno ar ôl i’r safle newydd agor.