Y DJ Dafydd Meredydd yw Golygydd Cynnwys Dros Dro Radio Cymru.
Mae’r BBC yn bwriadu hysbysebu “yn fuan” am olynydd i Rhuanedd Richards a fu yn Olygydd Radio Cymru a gwefan Cymru Fyw ers 2018.
Hi bellach yw Cyfarwyddwr Cynnwys BBC Cymru ers mis, ac fe fu’n rhannu ei gweledigaeth gyda golwg360 yr wythnos hon.
Cyflwynydd, cynhyrchydd, canwr
Bu Dafydd Meredydd yn lais adnabyddus ar Radio Cymru ers degawdau, ac mae wedi cyflwyno rhaglenni teledu ar S4C hefyd megis Cân i Gymru.
Mae yn fab i Arwel Jones, un o gantorion y grŵp poblogaidd Hogia’r Wyddfa.
Yn y 1990au fe fu’r mab yn recordio caneuon dan yr enw ‘Dafydd Du a’r Ladies’ – gyda’r gân ‘Heno’ yn ymddangos ar yr albwm amlgyfrannog Ram Jam 2, a ‘Dafydd Du’ ar y casgliad Ram Jam 3.
Yn wreiddiol o Benisarwaen yng Ngwynedd, fe aeth Dafydd Meredydd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Ffiseg, cyn troi am y cyfryngau.
Ar wahanol adegau yn ystod ei yrfa mae wedi cyd-gyflwyno rhaglenni i bobol ifanc a chyflwyno ei sioe ei hun ar Radio Cymru, ac yn fwyaf diweddar wedi cyflwyno sioe frecwast ar Radio Cymru 2 gyda Caryl Parry Jones.
Yn ogystal â chyflwyno, mae yn gynhyrchydd rhaglenni.