Mae’r RNLI wedi cyhoeddi fideo o syrffiwr yn cael ei hachub o’r môr yn Nhrearddur ym Môn, gan ddweud bod yr ymgais i’w hachub ymhlith y rhai “mwyaf heriol” iddyn nhw ymwneud â nhw.

Mae’r fideo’n dangos y criw yn dychwelyd i’r lan ar ôl brwydro yn erbyn gwyntoedd o hyd at 50m.y.a. er mwyn cyrraedd y syrffiwr, oedd wedi mynd yn agos iawn at greigiau nos Iau (Mai 20).

Yn ôl yr RNLI, roedden nhw wedi gwthio’u hadnoddau i’r eithaf er mwyn achub y ddynes a “chael a chael” oedd hi wrth geisio gwneud hynny.

“Un cyfle” fyddai wedi bod ganddyn nhw, yn ôl llefarydd y gangen leol.