Mae cadeirydd pwyllgor seneddol yn San Steffan yn galw am roi iawndal i unrhyw aelod o staff y BBC a gafodd eu heffeithio ar ôl iddyn nhw godi pryderon am Martin Bashir, ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi defnyddio dulliau amheus i sicrhau cyfweliad â’r Dywysoges Diana.

Mae’r Arglwydd Dyson wedi cyhoeddi adroddiad ynghylch yr amgylchiadau a arweiniodd at y cyfweliad â Thywysoges Cymru ar y rhaglen Panorama yn 1995.

Ond mae gwleidyddion yn awyddus i benderfynu a oes angen edrych y tu hwnt i’r adroddiad damniol a ddaeth i’r casgliad fod y BBC wedi celu “ymddygiad twyllodrus” Bashir.

Mae’r Arglwydd Hall, cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y Gorfforaeth, hefyd yn wynebu cwestiynau ynghylch y penderfyniad i gyflogi Bashir o’r newydd yn 2016.

Mae’r tywysogion William a Harry, meibion Diana, wedi beirniadu’r BBC yn sgil yr helynt gan gyhuddo’r Gorfforaeth o achosi “ofn, paranoia a theimladau o fod wedi’i hynysu” oedd gan eu mam cyn ei marwolaeth yn 1997, ac o gyfrannu at ddiwedd ei phriodas â’r Tywysog Charles.

Dywed Harry hefyd fod gan y BBC “ddiwylliant o ecsbloetio ac arferion anfoesol oedd wedi cipio’i bywyd yn y pen draw”.

Canlyniadau’r ymchwiliad

Yn ôl Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, mae’n rhaid dysgu gwersi gan fod pobol “wedi’u siomi’n fawr” gan ddogfen yr Arglwydd Dyson.

Yn ôl y Daily Mail, mae’r Iarll Spencer, brawd Diana, wedi annog Heddlu Scotland Yard i gynnal ymchwiliad i’r BBC ac fe ddaeth i’r amlwg ei fod e wedi anfon llythyr at y Fonesig Cressida Dick, Comisiynydd Heddlu Llundain, ym mis Ionawr.

Ddeufis yn ddiweddarach, dywedodd Heddlu Llundain nad oedd hi’n “briodol” cynnal ymchwiliad i dorcyfraith ond maen nhw bellach yn craffu ar gynnwys adroddiad yr Arglwydd Dyson rhag ofn fod ynddo dystiolaeth newydd.

Ddoe (dydd Gwener, Mai 21), fe wnaeth James Harding, cyn-gyfarwyddwr Newyddion y BBC, ymddiheuro am ailgyflogi Martin Bashir yn 2016 ond roedd e’n gwrthod dweud a oedd gan yr Arglwydd Hall ran ym mhenodiad Bashir yn Ohebydd Materion Crefyddol cyn dod yn Olygydd Crefyddol yn ddiweddarach.

Bydd Julian Knight, cadeirydd Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan, yn gofyn i Tim Davie am eglurhad ynghylch pam fod Bashir wedi cael dychwelyd i’r BBC.

Mae’n dweud bod “cwestiynau difrifol i’w hateb o hyd”, a bod angen i’r BBC ddangos “tryloywder a gonestrwydd”.

Yn sgil yr helynt, mae Tim Suter, oedd yn rhan o’r ymchwiliad gwreiddiol yn 1996, wedi camu o fwrdd rheoli Ofcom, ac yntau hefyd wedi bod yn rheolwr-olygydd rhaglenni newyddion a materion cyfoes wythnosol y BBC.

Mae disgwyl i’r BBC ac Ofcom drafod yr helynt.

Iawndal

Yn ôl Julian Knight, dylai’r BBC ystyried rhoi iawndal i staff a ddioddefodd ar ôl codi pryderon am Martin Bashir.

Mae e wedi annog Tim Davie i gyfarfod â’r dylunydd graffeg Matt Wiessler, oedd wedi datgelu iddo gael ei gomisiynu gan Martin Bashir i greu dogfennau ffug.

Cafodd ei yrfa ei heffeithio’n sylweddol yn dilyn y digwyddiad hwnnw.

“Dw i’n credu bod angen i’r BBC gadw meddwl agored yn nhermau’r posibilrwydd o iawndal ond hefyd, sut mae’n cyfathrebu â phobol fel Mr Wiessler, sydd yn amlwg wedi wynebu canlyniadau eithaf dwys o ganlyniad i’r ffiasgo yma,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.

Mae’n dweud bod angen cryfhau polisi golygyddol y Gorfforaeth, ond mae’n amheus ai awgrym yr Arglwydd Grade, cyn-gadeirydd y BBC, y dylid sefydlu bwrdd newydd yw’r ateb priodol.

Mae’n dweud bod perygl y gallai bwrdd newydd o’r fath fod yn “siop siarad yn llawn pobol â chyflogau mawr”, a bod gan y BBC “lawer o fyrddau eisoes”.

Mae’n dweud y dylid ailystyried y penderfyniad i symud y pennaeth polisi golygyddol o’r bwrdd gweithredol, gan fod ganddo “bryderon nad oes gan y polisi golygyddol hwnnw lais digon uchel” gan ddweud hefyd fod y Gorfforaeth yn “cowtowio ychydig i dalent”.