Mae rhagor o nwyddau meddygol wedi cael eu hanfon o Gymru i India wrth i’r wlad barhau i frwydro yn erbyn lefelau uchel o Covid-19.

Aeth awyren o wledydd Prydain i India yr wythnos hon, wrth i lywodraethau Cymru, yr Alban a San Steffan gydweithio i gynnig cymorth.

Cafodd 638 o grynhowyr ocsigen a 351 o beiriannau anadlu eu hanfon o Gymru i Delhi ddydd Mercher (Mai 19) a dydd Iau (Mai 20), ynghyd â 100 o grynhowyr ocsigen a 40 o beiriannau anadlu o’r Alban i’w rhoi i’r Groes Goch yn India.

Neithiwr (nos Wener, Mai 21), cafodd 100 yn rhagor o grynhowyr ocsigen a 40 o beiriannau anadlu CPAP eu hanfon o’r Alban.

Daw’r cyfan ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, addo y byddai’r Deyrnas Unedig yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

‘Cefnogi cenhedloedd eraill’

“Mae Covid-19 yn argyfwng byd-eang ac felly, mae hi’n briodol ein bod ni’n rhan o’r ymateb byd-eang, gan gefnogi cenhedloedd eraill,” meddai Eluned Morgan.

“Rydym wedi cydweithio’n agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth India ar y logisteg ac wedi trefnu i gyflenwadau o beiriannau anadlu a chrynhowyr ocsigen gael eu cludo i India a’u dosbarthu i’r ysbytai lle mae eu hangen nhw fwyaf.”