Alaw Grug Evans o Bontyberem sydd wedi ennill gwobr Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T.

Fe wnaeth y beirniad a’r delynores Catrin Finch gyhoeddi ei bod hi wedi ennill mewn seremoni arbennig oedd yn cael ei darlledu’n fyw o Wersyll yr Urdd Llangrannog heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 1).

Mae Alaw yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn o gerddoriaeth dim mwy na thair munud o hyd ar unrhyw thema, a bydd hi’n derbyn tlws arbennig wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin Evans.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Ioan Rees o Gyffylliog ger Rhuthun, a Celt John o Ddolgellau oedd yn drydydd.

Yn ôl Catrin Finch, roedd cyfansoddiadau’r tri a ddaeth i’r brig wedi creu argraff arni, gyda’r ensemble a gyflwynodd Alaw o dan y ffugenw ‘Siarad Mân’ yn “ysbrydoledig” a “phrydferth”.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, mae Alaw yn 19 oed, ac yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Cerddoriaeth yn Queen’s College ym Mhrifysgol Rhydychen.

Cyfansoddodd ‘Pwyll a Rhiannon’ fel rhan o gyfres o bedwar darn sy’n seiliedig ar geinciau’r Mabinogi, ac mae Alaw yn gobeithio gallu cyfansoddi’r drydedd gainc yn y flwyddyn nesaf.

“Eisiau gwrando ar fwy”

“Ges i bleser mawr yn beirniadu cystadleuaeth y Prif Gyfansoddwr eleni, ac i sylweddoli faint o gyfansoddwyr talentog ifanc sydd yma yng Nghymru,” meddai Catrin Finch yn ei beirniadaeth.

“Mi roedd o mor galonogol i dystio i safon y cyfansoddi ac i sylweddoli pa mor ‘fyw ac iach’ mae cerddoriaeth ysbrydoledig pobol ifanc o’n cwmpas ni.

“Mi wnaeth ‘Siarad Mân’ ddewis ensemble ychydig yn wahanol – violin, viola, soddgrwth, trwmped a thelyn… Wnaeth lwyddo i greu darlun hefo defnydd o harmonies ac alawon hyfryd a diddorol.

“Patrymau yn gwehyddu a nodau yn gweu at ei gilydd.

“Mi oeddwn i eisiau gwrando ar fwy!”

Alaw Grug Evans yn ennill gwobr Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T

“Mi roedd o mor galonogol i dystio i safon y cyfansoddi ac i sylweddoli pa mor ‘fyw ac iach’ mae cerddoriaeth ysbrydoledig pobol ifanc o’n cwmpas ni”