Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y bydd stormydd mellt a tharanau ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe fory (dydd Mercher, Mehefin 2).

Gallai llifogydd fod yn bosib hefyd, ac mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer de orllewin Cymru.

Mae’n debyg y bydd y stormydd yn digwydd rhwng 5yb ac 11yb, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Maen nhw’n dweud hefyd ei bod hi’n “debyg mai mellt fydd y prif berygl yn hyn, er bod peth glaw trwm a chenllysg yn bosib”.

Mae stormydd o daranau yn “debygol” ar draws de orllewin y wlad bore fory, a gallai hyn arwain at 20mm o law mewn rhai mannau gan gynyddu’r risg o lifogydd a allai ddifrodi tai a busnesau.

Maen nhw’n rhybuddio hefyd y bydd amodau gyrru yn cael “eu heffeithio gan ddŵr yn tasgu, dŵr yn sefyll a/neu genllysg, gan arwain at siwrnai hirach”.