Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cofrestru i fod yn un o Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall.

Daw’r cyhoeddiad ar ddiwrnod cyntaf mis PRIDE, sy’n dathlu’r gymuned LHDTC+ ledled y Deyrnas Unedig.

Drwy ddod yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, nod Y Drindod Dewi Sant yw cefnogi ei staff a’i myfyrwyr LHDTC+ drwy ddarparu gweithle cynhwysol lle mae pobol yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.

Y rhaglen gan Stonewall yw’r brif raglen i gyflogwyr ar gyfer sicrhau fod holl staff LHDTC+ yn rhydd i fod yn nhw eu hunain yn y gweithle.

Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen yn gweithio gyda dros 850 o sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae gan bob un o’r Hyrwyddwyr gred sylfaenol yng ngrym gweithle sy’n croesawu, parchu a chynrychioli gweithwyr LHDTC+.

Drwy ymuno â’r rhaglen, bydd y Brifysgol yn gweithio gyda Stonewall i gymryd agwedd strategol a strwythuredig tuag at fentrau cydraddoldeb LHDTC+.

“Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant”

“Ein pobol ni sydd wrth wraidd popeth a wnawn yn Y Drindod Dewi Sant ac rydyn ni wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant,” meddai Jane O’Rourke, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Y Drindod Dewi Sant.

“Rydyn ni’n falch o’n cydweithwyr ymroddedig a thalentog ac yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm i wneud gwahaniaeth i fywydau ein myfyrwyr a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Wrth ddod yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall mae’r Brifysgol yn dymuno sicrhau bod ein staff LGBTQ+ yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw a’r doniau a’r gallu aruthrol y maen nhw’n eu cynnig i’r sefydliad.”

“Falch dros ben”

“Rydyn ni’n falch dros ben o fod yn Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall. Sefydlwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr,” meddai’r Athro Mirjam Plantinga, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol Profiadau Academaidd yn Y Drindod Dewi Sant.

“Rydyn ni am i’n myfyrwyr a’n staff deimlo’n hyderus byddwn yn gwrando arnyn nhw, yn eu clywed a’u bod yn cael cyfleoedd teg a chyfartal i ffynnu yn y sefydliad.

“Mae dod yn Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall mor bwysig i’n myfyrwyr LGBTQ+, ac rydym yn falch iawn i’w cefnogi.”