Fe fydd Guto Harri yn un o wynebau newydd y sianel GB News fydd yn cael ei lansio ar Fehefin 13, ac fe fydd yn cyd-gyflwyno rhaglen bob nos Sul rhwng 7-9yh yn edrych ymlaen at newyddion yr wythnos.
Ond mae’r newyddiadurwr wedi bod yn siarad â golwg360 am ei waith llai hysbys yn ystod y pandemig Covid-19 a fydd yn ei helpu yn ei rôl newydd.
Fe fu’n gwirfoddoli gyda chriw bad achub yr RNLI yn Chiswick ers chwe blynedd, yn gwneud dwy shifft o 12 awr bob mis fel ‘casualty care lead’ ac mae’n dweud ei fod e’n chwilio’n ofer am gyfleoedd i helpu pan gododd yr argyfwng coronafeirws.
Ond ymhen peth amser, roedd ymgyrch i ddod o hyd i wirfoddolwyr â rhywfaint o wybodaeth feddygol i sicrhau bod digon o bobol ar gael i frechu mewn canolfannau, ac roedd ei brofiad o fod ar gwrs hyfforddi yn Brighton yn ei wneud yn gymwys.
“Dros yr wythnosau diwetha’, dw i wedi bod yn fy GP surgery lleol fan hyn am shiffts o bedair awr ar y tro,” meddai, gan egluro ei fod e’n brechu tua 50 o bobol ar y dechrau ond fod y ffigwr yn nes at 80 o fewn dim o dro.
“Mae’r syniad o roi nodwydd ym mraich person arall yn gynhennid wrthun.
“Mae’n teimlo fel rhywbeth annifyr i’w wneud i rywun ond mae’n amlwg yn hynod o lesol.
“Dw i’n credu bo fi wedi cael cadarnhad dros yr wythnosau diwetha’ fod bron pawb yn y byd bach o ofn nodwyddau ac yn sicr ddim yn mwynhau’r profiad heblaw diabetics sydd wedi dod i arfer â fe ond mae bron pawb arall yn anghyfforddus â fe.”
Ymlacio pobol
Nid pawb sy’n gwbl gyfforddus yn cael eu brechu chwaith, felly sut mae’n mynd ati i’w hymlacio nhw, tybed?
Mae ei ffordd unigryw ei hun wedi arwain at dipyn o dynnu coes, meddai.
“Beth dw i wedi bod yn gwneud efo lot ohonyn nhw, ac mae’r nyrsys a’r doctoriaid wedi bod yn tynnu ’nghoes i’n ddi-dostur am hyn, yw dw i’n tueddi i gael pobol i edrych i ffwrdd wrtha i, peidio edrych ar eu braich a pheidio edrych ar y nodwydd, a dw i’n dweud wrthyn nhw i gyd i ddychmygu machlud braf yn un o’u hoff lecynnau nhw.
“Gallen nhw fod ar lan y môr ond dw i’n trio’u cael nhw i gyd i ddychmygu darn hyfryd o dir.
“Maen nhw i gyd yn edrych ar y machlud ac os dydyn nhw ddim yn bobol â’u crefydd yn erbyn yfed, dw i’n gofyn iddyn nhw egluro beth sydd yn eu llaw.
“Ydy e’n beint o lagyr oer, fel mae lot o’r dynion sy’n dod i mewn yn dweud, neu ydy e’n goctêl arbennig?
“Wrth iddyn nhw ffocysu ar y gwin gwyn neu’r coctêl, dyna pryd mae’r nodwydd yn mynd i mewn. Maen nhw ar eu mwya’ relaxed, a’r mwya’ relaxed ydych chi, lleia’ mae’n brifo.
“Ac wedyn ry’n ni’n cael laff ynglyn â pam mai dyna’u dewis nhw o ddiod!
“Dyna’r tric dwi wedi’i ddefnyddio ac er bo nhw i gyd yn tynnu ’nghoes i, maen nhw i gyd fel tasen nhw’n meddwl fod e’n gweithio’n eitha’ da i gael pobol i ymlacio mwy na beth maen nhw yn naturiol mewn sefyllfa od fel yna.
“Mae’n sefyllfa od ac ry’ch chi’n gorfod gwneud e’n reit sydyn achos, os y’ch chi’n meddwl bo ni’n gwneud rhyw 20 o bobol yr awr, does dim lot o amser gyda chi i drio ymlacio pobol a dyna dw i yn trio gwneud.”
‘Agoriad llygad’
Mae’n dweud bod y profiad wedi bod yn “agoriad llygad” iddo o ran natur y gymdeithas, gan dynnu sylw arbennig at hanes dynes o India yn wreiddiol a ddaeth i gael ei brechu ganddo fe.
“Roedd gyda fi ryw hen wraig y diwrnod o’r blaen oedd ddim yn siarad Saesneg,” meddai.
“Roedd ei merch hi, oedd bron yn hanner cant, yno i gyfieithu iddi.
“Roedd hi o India, yr hen wraig, ac roedd hi’n crynu gyda’r nodwydd. Mi wnaethon ni drafod y ffaith fod fy nhad yng nghyfraith i wedi tyfu i fyny yn India a bod fy ngwraig i’n coginio tipyn o fwyd Indiaidd.
“Pan ddywedais i bod ei daal hi, ei lentils hi, yn un o’n hoff brydau i, wnaeth ei merch hi gyfieithu hyn iddi, roedd hi’n wên o glust i glust a dywedodd hi os o’n i’n ei brechu hi’n dda, byddwn i’n cael ei daal hi am weddill fy oes!
“Ar y foment yna pan oedd hi’n chwerthin ac yn ymlacio ac yn meddwl am y daal, es i â’r nodwydd i mewn. Ac roedd hi’n ffaelu credu pa mor esmwyth oedd yr holl brofiad, felly ges i gynnig i fynd i gael ei daal hi y diwrnod wedyn – sa’i wedi bod, ond roedd y cynnig yn un caredig iawn!”
‘Pawb, bron yn ddieithriad, yn ddiolchgar’
Ar y cyfan, mae’n dweud ei fod e wedi cael ymateb positif i’r profiad a bod “pawb, bron yn ddieithriad, yn ddiolchgar” am y Gwasanaeth Iechyd a’r rhaglen frechu.
“Maen nhw bron i gyd yn dweud, ‘Nag yw e’n anhygoel bo ni fel gwledydd Prydain yn gwneud hyn cystal?’
“Maen nhw bron yn methu credu cystal yw’r rhaglen frechu ac mae’n egluro lot, wi’n credu, dim ots beth mae pobol yn ei ddweud am ddechrau’r argyfwng yma, mi fydd yna ddadlau am ymchwiliad a heb os, mi fydd camgymeriadau wedi’u gwneud, ond mae bron pawb sy’n dod i mewn i gael eu brechu yn credu bod diwedd y stori yma a’r frwydr fawr i gael brechlyn ma’s wedi bod yn llwyddiant ac yn llwyddiant ysgubol.
“Mae gorffen shifft pedair awr fel yna yn gwneud i ddyn deimlo’n wylaidd iawn, yn ddiolchgar iawn ac yn llawn gwerthfawrogiad ac edmygedd o’r natur ddynol.”
Defnyddio’r profiad wrth gyflwyno’i raglen newydd
Ei obaith o ran ei raglen, meddai, yw dod â ffeithiau “sych” yn fyw gan dynnu sylw at brofiadau bywyd go iawn pobol go iawn – fel ei brofiad e’n brechu pobol.
Bydd ei raglen newydd ar GB News yn gyfuniad o “wleidyddiaeth, busnes, chwaraeon, bywyd a phob dim arall”.
“Sen i’n disgwyl cael pobol flaenllaw ym myd busnes, ’sen i’n disgwyl cael enghreifftiau o bobol go iawn pan y’n ni’n edrych ar ffigurau diweithdra yn dod ma’s er enghraifft, pobol sydd â naill ai stori hapus i’w dweud, bo nhw wedi colli swydd ond wedi cael swydd newydd neu sydd â stori drist bo nhw wedi dod allan o’r Lluoedd Arfog ac wedi methu cael gwaith.
“Ac efallai byddwn ni’n siarad gyda phobol wedyn yn rhoi cyngor ynglŷn â sut fyddech chi’n mynd o’i chwmpas hi o ran sgiliau newydd neu swydd newydd neu yrfa newydd.
“Byddwn ni’n edrych ar bethau sydd yn y calendr, os liciwch chi, ond trio dod â rhyw bersbectif o’r byd go iawn i’r ffigurau go sych yna ymlaen llaw.
“Ry’n ni’n gobeithio adlewyrchu lot o bethau sy’n digwydd yn y gwasanaethau brys, beth sydd yn digwydd yn y Lluoedd Arfog a beth yw hanesion y bobol yna a beth yw hanesion y byd gwleidyddol i raddau helaeth a rhoi bach o gig a gwaed ar ein gwleidyddion ni, trafodaethau moesol a diwylliannol sydd mewn cymdeithas a rôl technoleg yn newid ein bywydau ni.
“Gallen ni fynd i jyst â bod unrhyw gyfeiriad ond os oes stori fawr, bydd pawb yn gwybod beth sy’n mynd i fod yn digwydd yn ystod yr wythnos, er enghraifft bod Dom Cummings yn mynd i fod o flaen pwyllgor seneddol, byddwn ni’n trio edrych ymlaen ar gyfer stori fel yna hefyd ond trio cymryd ongl mwy creadigol ac unigryw arnyn nhw.”
‘Cig a gwaed’
Nid dim ond “newyddion o’r stiwdio” fydd yn cael ei gynnig chwaith, meddai, ond cyfle i ddod i adnabod ffigurau cyhoeddus.
“Pan y’ch chi’n holi’r Ysgrifennydd Brexit fel wnaethon ni gyda David Davis pan oedd e’n Ysgrifennydd Brexit, bo ni ddim jyst yn eistedd mewn stiwdio yn siarad am Brexit.
“Wnaethon ni gerdded mewn i Ben-y-fan a wnaethon ni drafod y tad oedd e byth wedi cwrdd â fe heblaw am unwaith, ei dad go iawn e felly a wnaeth e ddatgelu bod ei dad go iawn e’n dod o Ferthyr Tudful a’i fod e’n was sifil yn Swyddfa Cymru a bod e ’mond wedi cwrdd â fe unwaith.
“Wnaethon ni drafod hanner canrif ynghynt pan oedd e wedi gwneud ei SAS selection a wedyn wnaethon ni drafod Brexit.
“Ond erbyn diwedd y cyfweliad, roedd gwylwyr Y Byd yn ei Le efo mwy o sens o David Davis fel person llawn na fyddai unrhyw wyliwr sianeli fyddai jyst yn ei weld e yn popio lan yn siarad am y maes llafur oedd ganddyn nhw fel pwyllgor.
“Felly ni eisiau trio adlewyrchu’r ffaith fod gwleidyddion o bob lliw yn bobol o gig a gwaed yn ogystal â phobol â safbwyntiau sydd yn gwyro’r naill ochr neu’r llall.
“Fase unrhyw un sydd wedi gwylio’r gyfres ddiweddara’ o’r Byd yn ei Le neu unrhyw gyfres o’r Byd yn ei Le, gobeithio, yn cytuno bod y gwleidyddion sy’n cynrychioli ni yn cael amser reit galed ond yn cael chwarae teg hefyd.
“Dyna fydd fy llinyn mesur i, gobeithio, efo unrhyw un fydda i’n ei holi.”