Mae mudiad ieuenctid yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at fyd natur, fel rhan o’u hymgyrch Nature Nearby.

Fe wnaeth UK Youth for Nature ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig y llynedd, a heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 1), maen nhw wedi cysylltu â llywodraethau Cymru a’r Alban.

Yn eu llythyr, sy’n cael ei gefnogi gan fudiadau megis Coed Cadw, RSPB Cymru, a Gwarchod Gloÿnnod Byw Cymru, maen nhw’n galw am wella ansawdd a mynediad i fannau gwyrdd, yn ogystal â chreu mwy o ardaloedd gwyrdd a glas.

Pryderon

Gan gyfeirio at ystadegau’r Arolwg Ordnans a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, dywed y mudiad fod llai na 4% o dir Cymru yn fannau gwyrdd (ac eithrio tir preifat â mynediad cyhoeddus, a pharciau cenedlaethol).

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae 13% o gartrefi yng Nghymru heb erddi preifat, a 36% o bobol sy’n byw mewn fflatiau heb fynediad at fan gwyrdd preifat.

Mae’r ganran yn uwch ar gyfer pobol ddu, Asiaidd a phobol o leiafrifoedd ethnig, gan “adlewyrchu’r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas”, meddai’r mudiad.

Yng Nghaerdydd, dim ond 8% o’r tir sy’n cynnwys mannau gwyrdd sy’n agored i’r cyhoedd, yn ôl yr Arolwg Ordnans a’r Field in Trust Green Space Index.

Mae’r llythyr gan UK Youth for Nature hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod cryn dipyn o fannau gwyrdd Cymru’n dir amaethyddol preifat, a bod ansicrwydd ynghylch hawliau mynediad yn golygu fod pobol yn poeni am fynd ar y tir.

Yn ôl y grŵp, mae’r un yn wir am afonydd a llynnoedd Cymru, wrth i bobol fod yn ansicr ynghylch eu hawliau pe bai gwrthdaro rhyngddyn nhw a pherchennog y tir.

Yn ogystal, noda’r llythyr at Lywodraeth Cymru fod Adroddiad Cyflwr Natur 2019 yn dangos bod un ymhob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, ac maen nhw’n galw ar y Senedd newydd i weithredu’n sydyn i atal hyn.

Gofynion

Mae’r llythyr yn galw ar y Senedd i wneud sawl peth i fynd i’r afael â’r sefyllfa:

  • Gosod targedau adfer natur sy’n rhaid cadw atyn nhw’n gyfreithiol.
  • Cynnwys addysg awyr agored fel elfen graidd o’r cwricwlwm.
  • Cydnabod pwysigrwydd natur i iechyd corfforol, meddyliol, ac emosiynol drwy ei ymgorffori mewn arferion gofal iechyd ochr yn ochr â thriniaethau a therapïau.
  • Buddsoddi £100m i wella ansawdd mannau gwyrdd a glas presennol, a dyblu’r mannau gwyrdd sy’n agored i’r cyhoedd yng Nghymru. Dylid sicrhau bod gan bob person yng Nghymru fynediad at fyd natur o fewn pedair munud o gerdded o’u cartref.
  • Sicrhau bod tirfeddianwyr preifat yn cynnal, ac yn cadw at, reolau hawliau tramwy cyhoeddus.
  • Sicrhau bod y system gynllunio yn gweithio er lles natur a’r hinsawdd.
  • Cynnig cefnogaeth ariannol i raglenni, prosiectau, a grwpiau cymunedol sy’n helpu pobol i gysylltu â byd natur.

‘Sicrhau Cymru fwy gwydn, iach a chyfartal’

“Wrth i ni ddechrau gadael y cyfnod clo ac adfer o effeithiau pandemig Covid-19, a throsglwyddo i genedl ôl-Brexit, mae gennym gyfle i greu perthynas rhwng pobol a natur sy’n gweithio i bawb,” meddai’r grŵp.

“Mae’r cyfnod clo wedi dangos angen hanfodol i sicrhau fod pobol ein cenedl yn cael mwy o fynediad at fannau gwyrdd a glas o ansawdd uchel sy’n llawn natur yn agos at ble maen nhw’n byw.

“Yn fwy nag erioed, mae mwy o awydd ymhlith trigolion Cymru i gael mynediad at natur, a’i diogelu.

“Wrth inni symud ymlaen, mae’n hanfodol bod natur a mynediad iddo’n cael eu gwella, gan y bydd yn chwarae rhan bwysig yn lles cenedlaethau’r dyfodol ac yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

“Byddem yn croesawu’r cyfle i drafod y syniadau hyn, a syniadau eraill sydd gennym, gyda chi, ac yn credu bod yn rhaid i’r Senedd weithredu nawr i greu mynediad gwell a thegwch i natur, gan sicrhau Cymru fwy gwydn, iach a chyfartal.”