Mae diffyg “ymlyniad i realiti” yng nghyhuddiadau arweinydd y DUP fod yr Undeb Ewropeaidd yn achosi niwed i Ogledd Iwerddon ar ôl Brexit, yn ôl llysgennad yr Undeb Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig.
Mae Joao Vale de Almeida wedi diystyru honiadau Edwin Poots fod trefniadau’n cael “effaith ddinistriol” ac yn achosi “niwed amlwg i bob unigolyn yng Ngogledd Iwerddon”.
Dywed y llysgennad “nad oes dewis arall” oni bai am Brotocol Gogledd Iwerddon, ar ôl i arweinydd y DUP alw am atal y protocol.
“Nid y protocol yw’r broblem”
“I ddechrau, dw i ddim yn meddwl fod y datganiadau hyn yn glynu wrth realiti,” meddai Joao Vale de Almeida wrth BBC Radio 4.
“Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ymroi i heddwch a llwyddiant i bawb yng Ngogledd Iwerddon yn wleidyddol, yn ariannol, ac yn emosiynol, fyddwn i’n dweud.
“Nid y protocol yw’r broblem, Brexit greodd y broblem yng Ngogledd Iwerddon.
“Mae’r protocol yn ymdrech ar y cyd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig, mae’n gyfraith Brydeinig, cyfraith Ewropeaidd, cyfraith ryngwladol, does dim dewis arall oni bai am y protocol.
“Dydy’r rhai sy’n gwrthwynebu’r protocol ddim hyd yn oed cyflwyno opsiwn arall sy’n cyd-fynd ag amodau Brexit felly y protocol yw’r ateb, mae’n rhaid ei weithredu ac rydyn ni eisiau ei weithredu gyda phragmatiaeth.”
Mae Edwin Poots yn honni bod Gogledd Iwerddon yn cael ei defnyddio fel “tegan” gan yr Undeb Ewropeaidd.