Mae Maros Sefcovic, is-lywydd Comisiwn Ewrop, yn mynnu nad yw’r Undeb Ewropeaidd yn defnyddio sefyllfa Gogledd Iwerddon i gosbi’r Deyrnas Unedig am Brexit.
Daw hyn wrth iddo ymateb i honiadau Edwin Poots, arweinydd newydd y DUP, sy’n feirniadol y bydd mwy o wiriadau ar nwyddau o wledydd Prydain mewn porthladdoedd bob wythnos yn Rotterdam unwaith y daw’r cyfnod o ras i ben.
Mae Poots yn cyhuddo’r Undeb Ewropeaidd o wneud “niwed amlwg i bob unigolyn yng Ngogledd Iwerddon” ac mae’n feirniadol o “effaith ddinistriol” hynny.
Yn ôl arweinydd y DUP, mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yr hawl i weithredu Cymal 16 i atal Protocol Gogledd Iwerddon yn sgil ei “ddinistr economaidd a chymdeithasol”, ac mae’n rhybuddio am yr anawsterau sydd i ddod wrth geisio caffael bwyd a meddyginiaethau.
“Mae gyda ni drais ar ein strydoedd yng Ngogledd Iwerddon, ac nid felly y bu ers blynyddoedd, ac mae hynny ar gefn y Protocol yma,” meddai.
Ymateb
Yn ôl Maros Sefcovic, sydd wedi bod yn siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC, fe fu Comisiwn Ewrop yn chwilio am “yr ateb gorau i’r sefyllfa sensitif iawn yng Ngogledd Iwerddon”.
Mae’n dweud ei bod hi’n “amlwg iawn” mai Protocol Gogledd Iwerddon yw’r ateb hwnnw, a’i fod yn “gyfle” i Ogledd Iwerddon.
Dywed ei fod e’n awyddus i drafod y sefyllfa â phleidiau Gogledd Iwerddon cyn iddyn nhw ddod ynghyd ar gyfer y Cyd-bwyllgor fis nesaf.
Daw hyn wrth i Edwin Poots gyhuddo’r Comisiwn o “beidio â gofalu am y broses heddwch”, gan ddweud bod “gwir angen i hynny newid”.
“Dyma’r Undeb Ewropeaidd yn ceisio cosbi’r Deyrnas Unedig,” meddai.
“O ganlyniad, mae Gogledd Iwerddon yn cael ei defnyddio fel tegan ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd.
“Galla i’ch sicrhau chi na ddylai Gogledd Iwerddon fod yn degan i neb, rydyn ni’n ddinasyddion yn y Deyrnas Unedig, roedden ni’n ddinasyddion yn yr Undeb Ewropeaidd ac rydyn ni’n haeddu cael ein trin â’r un parch â phawb arall.”
Awgrymu system debyg i’r Swistir
Un ateb posib, yn ôl Maros Sefcovic, yw cyflwyno system debyg i’r hyn sydd ar waith yn y Swistir, a fyddai’n dileu 80% o’r gwiriadau.
“Dw i’n credu mai dyna’r peth cywir i’w wneud, byddai’n tawelu’r sefyllfa,” meddai, gan ategu ei wrthwynebiad i ffin galed yn Iwerddon a galw am fwy o gydweithio rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.
Ond mae Edwin Poots yn galw am ateb parhaol.
“Yr ateb parhaol yw tynnu’r rhwystrau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a chynnig sicrwydd yn nhermau’r farchnad sengl fod y nwyddau sy’n mynd i mewn i’r Undeb Ewropeaidd o Brydain Fawr yn cael y gwiriadau priodol,” meddai.
“Dw i’n credu y gallwn ni ddileu bron bob risg i’r farchnad sengl drwy gael gwiriadau ar y nwyddau sydd yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon.
“Mae hynny’n mynd i’r afael â mater y farchnad sengl ac mae’n dal yn galluogi’r holl fwyd a’r meddyginiaethau sy’n teithio i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr heb gostau mawr, £25m y flwyddyn, i gael eu hychwanegu at y pwrs cyhoeddus.”