Mae asesiad newydd o’r Gymraeg yn sir Conwy a rhannau eraill o’r gogledd yn pwysleisio ei bod hi’n “hanfodol” fod siaradwyr Cymraeg yn cael gweithio o’u cartrefi er mwyn diogelu Cymreictod cymunedau gwledig.

Cafodd yr asesiad ei gomisiynu gan Fenter Iaith Conwy, ac mae’n rhybuddio bod yr ardaloedd dan sylw “mewn perygl o gael eu llethu gan fewnfudiad anferthol o bobol o ddinasoedd Lloegr” oni bai bod pobol yn cael gweithio gartref.

Yn ogystal ag edrych ar effeithiau penodol pandemig y coronafeirws, mae’r adroddiad yn cymharu’r gallu i siarad Cymraeg rhwng gwahanol grwpiau oedran a gwahanol rannau o’r sir.

Dyma rai o brif gasgliadau’r adroddiad:

  • Ychydig dros chwarter – 27% – o boblogaeth y sir a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2011, gyda 10% ychwanegol yn gallu deall yr iaith lafar yn unig. Mae hyn yn cynrychioli lleihad sylweddol o’r amcangyfrif o 42% yn 1961.
  • Ychydig dros hanner y boblogaeth (53%) a aned yng Nghymru, ac o’r rhain, gallai 47% siarad Cymraeg a 13% arall ddeall yr iaith lafar.
  • Er bod y cyfrifiad yn dangos 46.6% o blant 3-15 yn gallu siarad Cymraeg, mae ystadegau addysg o’r un flwyddyn yn awgrymu mai cyn lleied â chwarter y rhain oedd yn rhugl yn yr iaith.
  • Mae amrywiaeth anferthol o fewn y sir, sy’n cynnwys rhai o ardaloedd Cymreiciaf a mwyaf Seisnig Cymru, gyda’r prif raniad rhwng trefi’r arfordir a’r ardaloedd gwledig mewndirol.
  • Dim ond ym mherfeddwlad wledig y sir mae mwyafrif o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.

Yn ôl Huw Prys Jones, awdur yr adroddiad sydd hefyd yn gadeirydd ar Fenter Iaith Conwy, mae “gwrthgyferbyniad” rhwng trefi Seisnig yr arfordir a’r ardal wledig fwy Cymraeg.

“Er i’r ardal wledig brofi gostyngiad yn y ganran a allai siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2001, mae’n dal i fod yn rhan allweddol o brif gadarnle’r Gymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru,” meddai.

“Mae pob llinyn mesur posibl – boed o ran gallu ddisgyblion i gadw eu gallu i siarad Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol, neu drosglwyddo’r iaith mewn teuluoedd – yn dangos mai po uchaf yw’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg mewn unrhyw ardal benodol, y mwyaf ffafriol ydi’r amgylchiadau i’r iaith oroesi a ffynnu yno.

“Ar yr un pryd, mae’r ardaloedd hyn sy’n hanfodol i ddyfodol y Gymraeg o dan mwy o fygythiad nag erioed o’r blaen yn sgIl y cynnydd mewn gweithio o gartref yn sgil pandemig y coronafeirws.

“Oherwydd eu hagosrwydd at ddinasoedd fel Lerpwl a Manceinion, mae ardaloedd gwledig Conwy mewn sefyllfa neilltuol o fregus.”

Bygythiadau newydd, blaenoriaethau newydd?

Mae Huw Prys Jones o’r farn fod y bygythiadau newydd sy’n wynebu ardaloedd o’r fath yn galw am newid mewn blaenoriaethau o ran hyrwyddo’r Gymraeg a chynllunio dyfodol iddi.

“Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn llygad ei le wrth gyfeirio’r wythnos ddiwethaf at y cadarnleoedd Cymraeg fel rhan o’r hyn sy’n gwneud Cymru yn Gymru,” meddai.

“Mewn geiriau eraill, [mae’r Gymraeg yn] rhan gwbl allweddol o’n hunaniaeth fel pobol.

“Mae ardaloedd ac iddynt dreftadaeth ddiwylliannol eithriadol felly’n gofyn am warchodaeth arbennig wrth i fwy a mwy o bobol o ddinasoedd mawr Lloegr fod â’u bryd ar symud i gefn gwlad.

“Mae hyn i gyd yn galw am bwyslais cryfach ar y cadarnleoedd hyn mewn unrhyw ymdrechion gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i hyrwyddo’r Gymraeg.

“Mae’n amlycach nag erioed na fydd ymdrin â Chymru gyfan fel un uned ieithyddol unffurf yn gweithio yn erbyn y bygythiadau penodol sy’n wynebu rhai o’n hardaloedd Cymreicaf.”

Newidiadau technolegol a chymdeithasol

Dywed fod angen manteisio’n llawn ar newidiadau technolegol a chymdeithasol i weithio gartref, gan eu bod nhw’n cynnig cyfleoedd yn ogystal â bygythiadau i gymunedau Cymraeg.

“Mae’r gallu cynyddol i weithio o gartref am alluogi nifer llawer mwy o siaradwyr Cymraeg i fyw mewn cymunedau Cymraeg,” meddai.

“Gallai hefyd alluogi rhannau o’r Gymru wledig i fod yn llai dibynnol ar dwristiaeth a hefyd i fod mewn lle cryfach i wrthod datblygiadau dinistriol fel atomfeydd.

“Mae hyn i gyd fodd bynnag yn gofyn am gynllunio manwl, ynghyd â help i bobl leol sy’n cael eu hanfanteisio gan farchnad dai chwyddedig, a hefyd anogaeth fwriadol ac ymarferol gan sefydliadau llywodraeth i alluogi siaradwyr Cymraeg i weithio o’u cartrefi.

“Heb gymorth llywodraeth i wireddu’r cyfleoedd newydd hyn, bydd holl gymeriad a hunaniaeth ein hardaloedd gwerthfawrocaf yn cael ei weddnewid yn llwyr a rhan amhrisiadwy o’n treftadaeth yn cael ei golli am byth.”