Mae un o weinidogion Sinn Fein yng Ngogledd Iwerddon yn gwrthod cadarnhau bod y blaid yn ystyried peidio ag enwebu dirprwy brif weinidog oni bai eu bod nhw’n cael sicrwydd am ddeddfwriaeth newydd i’r Wyddeleg.

Mae disgwyl i Edwin Poots, arweinydd newydd y DUP, gyhoeddi ei gabinet yn Stormont ddydd Mawrth (Mehefin 1), ac fe fydd yn enwebu cydweithiwr i fod yn brif weinidog er mwyn iddo yntau ganolbwyntio ar arwain y blaid.

Mae lle i gredu bod Mervyn Storey a Paul Givan yn y ras ar gyfer y swydd honno.

Ond fyddai’r weinyddiaeth newydd ddim yn gallu gweithredu oni bai bod Sinn Fein yn enwebu dirprwy.

Mae’r blaid yn galw am sicrwydd y bydd deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno, yn unol â’r cytundeb Degawd Newydd, Dull Newydd fis Ionawr y llynedd.

‘Cytundeb sy’n gweithio i bawb’

“Mae Edwin Poots yntau, oedd yn un o negodwyr Cytundeb Newydd, Dull Newydd y llynedd, a’r DUP ehangach wedi cymeradwyo’r cytundeb hwnnw,” meddai Deirdre Hargey, gweinidog cymunedau Sinn Fein.

“Dw i’n obeithiol o ran ymgysylltu rhwng y pum plaid yn y Pwyllgor Gwaith yn yr amser sydd i ddod fod modd cyflwyno’r ddeddfwriaeth honno yn y mandad hwn.

“Mae wedi’i gynnwys yn y cytundeb, rydyn ni eisiau gweld y cytundeb sy’n gweithio i’r holl bobol yma yn cael ei weithredu.

“Mae Edwin Poots wedi dweud eisoes ei fod e’n ddyn sy’n cadw at ei air, fe ddywedodd ei fod e yma i weithredu’r cytundeb Degawd Newydd, Dull Newydd a byddwn i’n disgwyl ei fod e am gyflwyno hwnnw yn ei gyfanrwydd.”

Gwrthod cydweithio?

Wrth drafod y ddeddfwriaeth arfaethedig, serch hynny, roedd hi’n gwrthod dweud a fyddai Sinn Fein yn gwrthod cydymffurfio â’r angen i enwebu dirprwy brif weinidog oni bai bod sicrwydd y bydd deddf iaith newydd.

“Dw i’n credu bod y ffocws nawr ar sicrhau bod yr holl bleidiau, ac mae pum plaid yn y Pwyllgor Gwaith… dw i’n credu bod safbwynt sylweddol o fewn y gymuned ehangach eu bod nhw am weld y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno, maen nhw am weld gweithredu’r cytundeb a gafodd ei osod er mwyn adfer rhannu grym eto.

“Mae ein ffocws ni ar weithredu’r cytundeb, mae ein ffocws ni ar sicrhau bod y sefydliadau sy’n rhannu grym yn gweithio, mae ein ffocws ni ar sicrhau y gall y Pwyllgor Gwaith pum plaid weithio ar weithredu’r cytundebau hynny.”