Mae enwau’r 26 chwaraewr yng ngharfan bêl-droed Cymru ar gyfer yr Ewros wedi cael eu cyhoeddi.

Gareth Bale fydd yn arwain y garfan, ac mae saith arall oedd yn Ffrainc bum mlynedd yn ôl hefyd wedi’u henwi – Aaron Ramsey, Ben Davies, Chris Gunter, Danny Ward, Joe Allen, Jonny Williams a Wayne Hennessey.

Er mai chwe gêm yn unig mae e wedi’u chwarae i Gaerdydd, mae’r chwaraewr canol cae 19 oed, Ruben Colwill wedi’i alw i’r garfan am y tro cyntaf.

“Chwa o awyr iach”

“Mae e wedi bod yn chwa o awyr iach ers iddo ddod i mewn,” meddai’r rheolwr, Robert Page, am Colwill.

“Fe chwythodd e ni i gyd i ffwrdd gyda sut oedd e a sut wnaeth e ymddwyn. Mae’n broffesiynol yn barod ac yn fachgen gwych i’w gael o gwmpas y lle.

“Mae wedi creu argraff fawr arnaf, mae ganddo bresenoldeb ac efallai rhywbeth nad ydym wedi’i gael yng nghanol y cae.

“Mae e’n gallu chwarae oddi ar y dde, mae’n gallu chwarae fel 10, mae’n gallu chwarae yng nghanol cae – ac mae hynny’n fonws pan fyddwch chi’n dewis carfan.”

Penderfyniadau anodd

Roedd Hal Robson-Kanu a Will Vaulks eisoes wedi’u hepgor o’r garfan baratoadol, ac yn dilyn y cyhoeddiad heddiw bydd Tom Lawrence, Rabbi Matondo, Brennan Johnson, Tom Lockyer, Mark Harris a George Thomas hefyd yn colli allan.

Dywedodd Page wrth sianeli cyfryngau Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Dw i wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd ac mae rhai pobl siomedig o gwmpas y lle ac yn gadael y gwersyll – dyw hynny ddim yn hawdd.

“Dywedais i wrth y 26 lwcus fod gyda ni grŵp mor dda, grŵp sy’n dynn iawn gyda’i gilydd, fod heddiw wedi bod yn ddiwrnod caled.

“Pe bawn i wedi gallu mynd a 31 byddwn i wedi oherwydd eu bod nhw’n gymeriadau mor dda, ond mae’n rhaid i ni wneud y penderfyniadau hyn a symud ymlaen.”

Y garfan

Mae’r 26 sydd wedi’u dewis fel a ganlyn.

Gôlgeidwaid

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies.

Amddiffynwyr

Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Chris Mepham, Joe Rodon, James Lawrence, Neco Williams, Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango.

Canol cae

Aaron Ramsey, Joe Allen, Jonny Williams, Harry Wilson, David Brooks, Joe Morrell, Matt Smith, Dylan Levitt, Rubin Colwill.

Ymosodwyr

Gareth Bale, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Daniel James.

  • Gallwch ddarllen mwy am seren newydd pêl-droed Cymru, Rubin Colwill, isod

Rubin Colwill yn “pinsio fy hun” ar ôl “blwyddyn wallgof”

Mae’r llanc 19 oed wedi cael ei enwi yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf