Mae Rubin Colwill yn dweud ei fod yn “pinsio fy hun” ar ôl cael ei enwi yng ngharfan baratoadol Cymru.
Mae’r llanc 19 oed yn ymuno ag arwyr Cymru megis Aaron Ramsey, Gareth Bale a Joe Allen ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc ar 2 Mehefin ac Albania ar 5 Mehefin.
Dechreuodd Colwill y tymor yn chwarae yn academi Caerdydd, cyn torri i mewn i’r tîm cyntaf tua diwedd y tymor a gwneud chwe ymddangosiad.
“Mae wedi bod yn anghredadwy,” meddai Colwill, sydd o Gastell-nedd.
“I hyfforddi gyda’r chwaraewyr dw i wedi gwylio ers pan o’n i’n blentyn a’u cefnogi yn Euro 2016.
“Mae’r safon yn anghredadwy, rwy’n bendant yn pinsio fy hun.
“Bydd yn anodd iawn (cael ei ddewis ar gyfer Euro 2020) oherwydd bod llwyth o chwaraewyr da yma, ond mae’n rhaid i chi anelu at y sêr felly mae’n bosib, am wn i.
“Byddai’n wych pe bai’n hynny yn digwydd, ond os na gobeithio y bydd yn y blynyddoedd i ddod.”
Aeth Colwill i’r un ysgol yng Nghastell-nedd ag amddiffynnwr Tottenham, Ben Davies, wnaeth ddechrau ei yrfa yn Abertawe.
Ond gwnaeth Colwill y daith hirach i fyny’r M4 yn wyth oed i ymuno ag academi Caerdydd, gan symud ymlaen drwy’r gwahanol grwpiau oedran cyn camu i fyny i’r tîm dan 23 cyn ymgyrch 2020-21.
Canu clodydd Mick McCarthy
Mae Rubin Colwill yn ddiolchgar i Mick McCarthy, rheolwr Caerdydd, am y cyfle mae e wedi ei gael y tymor hwn.
“Mae wedi bod yn wych,” meddai. “Mae e’n bositif ac yn fy annog.
“Mae’n gwybod fy rhinweddau a dywedodd wrthyf am eu dangos nhw yma.
“Dw i jyst yn gwneud cystal ag y gallaf bob dydd.
“Mae’n rhaid i ti addasu i sut rwyt ti’n chwarae a faint o gyffyrddiadau rydych chi’n ei gymryd.
“Mae wedi bod yn flwyddyn wallgof. Mae wedi dod mor gyflym ac mae pêl-droed yn newid mor gyflym.
“Gobeithio y bydda’ i’n parhau i ddatblygu a chael fy newis ar gyfer yr un nesaf.”