Mae Hal Robson-Kanu wedi cael ei adael allan o garfan 28 dyn Cymru ar gyfer gwersyll hyfforddi Ewro 2020 ym Mhortiwgal.

Roedd ymosodwr West Bromwich Albion, 32, yn un o sêr Ewro 2016 Cymru, gan sgorio gôl eiconig yn y fuddugoliaeth 3-1 dros Wlad Belg.

Er iddo ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, fe ddychwelodd y llynedd – ond cafodd ei anfon adref o garfan Cymru ym mis Mawrth ar ôl “torri protocolau”.

Yr awgrym felly yw na fydd Hal Robson-Kanu yn rhan o’r garfan 26 fydd yn teithio i’r Ewros.

Absenoldebau

Mae Will Vaulks, chwaraewr canol cae Caerdydd, hefyd wedi ei adael allan o’r garfan.

Nid yw’r asgellwr Daniel James yn y garfan oherwydd bod Manchester United yn chwarae yn rownd derfynol Cynghrair Europa.

Mae chwaraewyr eraill sydd ddim yn y garfan oherwydd ymrwymiadau clwb yn cynnwys yr amddiffynwyr Connor Roberts a Ben Cabango, gydag Abertawe yn chwarae yn rownd derfynol gemau ail-gyfle’r Bencampwriaeth ddydd Sadwrn (Mai 29).

Bydd yr ymosodwr Brennan Johnson, sydd ar fenthyg gyda Lincoln City o Nottingham Forest, yn chwarae yn rownd derfynol gemau ail-gyfle League One.

A bydd y gôl-geidwad Tom King a’r chwaraewr canol cae Josh Sheehan yn aros gyda Chasnewydd ar gyfer rownd derfynol gemau ail-gyfle League Two.

Ambell enw anghyfarwydd

Yn eu habsenoldeb, mae chwaraewyr Caerdydd, Rubin Colwill a Mark Harris, wedi’u cynnwys ar gyfer y daith i Bortiwgal, er nad oes disgwyl iddyn nhw deithio i’r Ewros.

Mae’r gwersyll hyfforddi, yn ardal Algarve yn cael ei gynnal rhwng 24 a 29 Mai, yn paratoi ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc ar 2 Mehefin ac Albania ar 5 Mehefin.

Bydd Rob Page yn cyhoeddi ei garfan 26 dyn ar gyfer Ewro 2020 ddydd Sul (Mai 30).

Aaron Ramsey yn dychwelyd i’r garfan

Bydd cefnogwyr Cymru yn falch o weld bod Aaron Ramsey yn ôl yng ngharfan Cymru.

Prin y mae Ramsey, sy’n chwarae ei bêl-droed yn yr Eidal gyda Juventus, wedi bod ar gael i Gymru ers iddo sgorio dwy gôl wrth i Gymru drechu Hwngari ym mis Tachwedd 2019, gan sicrhau ei lle yn Ewro 2020.

Mae’r Cymro wedi cael tymor anodd yn Turin wrth iddo ddelio ag anafiadau cyson.

Mae Gareth Bale, Ben Davies a Joe Allen hefyd yn teithio i Bortiwgal.

Bydd Rob Page yn gobeithio na fydd yna yno unrhyw broblemau newydd yn codi gydag anafiadau rhwng nawr a’r Ewros.

Y garfan

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, James Lawrence, Ben Davies, Joe Rodon, Chris Mepham, Chris Gunter, Rhys Norrington-Davies, Neco Williams, Joe Allen, Joe Morrell, Ethan Ampadu, Matthew Smith, Jonathan Williams, Kieffer Moore, Aaron Ramsey, Harry Wilson, Gareth Bale, David Brooks, Tyler Roberts, Tom Lawrence, Rabbi Matondo, Dylan Levitt, Tom Lockyer, Rubin Colwill, Mark Harris, George Thomas.

 

Cadw golwg ar y Cymry

Hynt a helynt chwaraewyr Cymru i’w clybiau y penwythnos hwn